Calan
tudalen wahaniaethu Wikimedia
Ystyr Calan (gair benthyg i'r Gymraeg o'r gair Lladin calendae, term eglwysig-Rufeinig yn wreiddiol) yw'r "dydd cyntaf" e.e. Calan Mai ydy'r diwrnod cyntaf o Fai, Calan Gaeaf ydy'r diwrnod cyntaf o'r gaeaf. Gall gyfeirio at un o sawl diwrnod yn y flwyddyn:
- Dydd Calan (Calan Ionawr), diwrnod cyntaf y flwyddyn (1 Ionawr), neu 'Y Calan', sef tymor dechrau'r flwyddyn.
- Yr Hen Galan, a ddisodlwyd gan y Dydd Calan presennol yn 1752.
- Calan (band), grŵp neu fand gwerin a sefydlwyd yn 2008.
Enghraifft o'r canlynol | tudalen wahaniaethu Wikimedia |
---|
Dyddiau chwarter a dyddiau cyntaf y mis:
- Calan Awst (1 Awst)
- Calan Chwefror (1 Chwefror)
- Calan Ebrill (1 Ebrill)
- Calan Gaeaf, neu 'Calan Tachwedd' (1 Tachwedd)
- Calan Gorffennaf (1 Gorffennaf)
- Calan Hydref (1 Hydref)
- Calan Ieuan Fedyddiwr, sef Dydd Gŵyl Ifan (24 Mehefin)
- Calan Mai (1 Mai)
- Calan Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi) (1 Mawrth)
- Calan Nadolig, sef y dydd Nadolig ei hun a/neu'r tymor
- Calan Rhagfyr (1 Rhagfyr)
- Calan Ystwyll (Nos Ystwyll), diwrnod cyntaf Epiphani (dyddiad yn amrywio)
Ffynhonnell
golygu- Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 1, tud. 390.