Dyddiadur EHT Bible, Aberdyfi

Dyddiaduron gan naturiaethwr treiddgar a dysgedig wedi eu cofnodi yn bennaf yn ei fro fabwysedig o Aberdyfi.

Dyddiadur EHT Bible, Aberdyfi
Enghraifft o'r canlynoldyddiadur Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadAberdyfi Edit this on Wikidata

Cofnodion naturiaethol manwl yw’r cyfan. Dyma’r cofnodion mwyaf arwyddocaol, ffenolegol, meteorolegol neu ddiddorol a godwyd i’r Tywyddiadur (ar waith)[1]

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Edward Henry T. Bible, naturiaethwr, yn Hitchin, Swydd Hertford, in 1873. Treuliodd yrfa yn ardaloedd Birmingham a Malvern, Swydd Gaerwrangon a gwasanaethodd gyda Gwirfoddolwyr Caerwrangon (Worcestershire Volunteers) yn ystod y Rhyfel Gyntaf. Ar ôl y Rhyfel symudodd i Aberdyfi lle bu i'w wraig gyntaf farw yn 1926. Ail briododd yn 1928 a ganwyd iddynt fab, Timothy gyda'i ail wraig. Yn ystod y 1920au ac 1930au cyfrannodd i golofn Nature Notes i'r ''Shrewsbury Chronicle'' dan olygaeth ei gyfaill a chyd-naturiaethwr HE Forrest. Adnabu naturiaethwyr lleol eraill gan gynnwys y Dr J.H. Salter, a hefyd William Condry, a gyfarfu gynta yn 1948. Datblygodd ohebiaeth rheolaidd gyda Condry o 1949. Fe'i adnabu gan gyfeillion a gohebwyr wrth y llys-enw 'Biblos'. Bu farw yn 1956.

Cefndir dogfennol golygu

Yn ôl Cyfrifiad 1881, oed 7, roedd y dyddiadurwr yn fachgen ysgol yn byw gyda’i rieni. Roedd ei dad yn Feili Fferm. Yn 1891, yn 17 mlwydd oed fe’i disgrifir fel ‘servant’ ac yn 1901, oed 27, fe’i disgrifir yn 1939 fel dyn o fodd personol. Ei gartref yn y blynyddoedd hyn oedd Stevenage swydd Hertford, Birmingham a Malvern. Nid yw’n glir sut a ble enillodd ei fodd - efallai trwy ei wraig gyntaf Ada a farwodd yn Aberdyfi yn 1926 â golud sylweddol. .

Ymddengys iddo briodi ddwywaith, yn 1899 (yn Aston, swydd Warwick), ac yn 1928 (yn Salford, swydd Gaerhirfryn) a bu ei wraig gyntaf yn briod cyn priodi Edward.

Cychwynnodd ei gysylltiad ag Aberdyfi cyn 1926 pan ddechreuodd gadw ei ddyddiadur natur. Ni wyddys pryd daeth yno i fyw llawn amser na’r dylanwadau arno i feithrin sgiliau naturiathol ond datblygodd berthynas agos a’r naturiaethwr a’r awdur William Condry.

Cofnod Profiad y dyddiadurwr:

BIBLE Edward Henry Tiltman of 2 Penhelig-terrace Aberdovey Merionethshire died 17 January 1956 at the General Hospital, Aberystwyth Cardiganshire Probate London..... Effects .£9398 8s. 4d.[1]

Cynnwys y dyddiaduron golygu

Mae dyddiaduron natur EHT Bible yn cofnodi adar, mamoliaid, creaduriaid y môr, pryfed a phlanhigion, yn ac o gwmpas Aberdyfi, Cymru, gyda nodiadau ar leoliaid, rhywogaethau, arferion, patrymau mudo a cyflyrau tywydd. Tanlinellwyd enwau rhywogaethau yn y dyddiaduron mewn inc coch. Cofnododd Bible enghreifftiau o anifeiliaid marw, casglu wyau, marchnata crwyn, trapio a saethu, a chydnabu'r angen am warchodaeth. Nodir sylwadau pobl eraill yn aml, gan gynnwys Dr J.H. Salter a Miall Jones, y ddau o Aberystwyth, Cymru, a Mary Richards o Ddolgellau, Cymru. Ceir ambell dinc o ddoniolwch yn nisgrifiadau Bible o'i gyffyrddiadau ag anifeiliaid a phobl. Nodir gweithgareddau garddio yn y dyddiaduron mwy diweddar, ac, o 1943 ymlaen cofnodir fesuriadau glaw. Labelir y rhan fwyaf o'r dyddiaduron yn Fair Copy, ond ceir dau nodlyfr bychan yn y gyfres sy'n cynnwys fersiynau drafft.
Perthyn hawlfraint y dyddiaduron i Timothy Bible, Romsey, Hampshire, Mawrth 2000.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Diolch i Steve Roddick am y gwaith ymchwil hwn sy‘n seiliedig ar gofnodion cyhoeddus Profiad, tystysgrifau a chyfrifiadau swyddogol ar-lein
  2. Cyfieithiad metadata y ddogfen gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru