Dyfnallt Morgan

bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd

Llenor, beirniad llenyddol, bardd a chyfieithydd oedd Dyfnallt Morgan (4 Mai 19176 Hydref 1994), a aned yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg.

Dyfnallt Morgan
Ganwyd24 Mai 1917 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw6 Hydref 1994 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa
  • Ysgol Gynradd Gellifaelog Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ffrae Steddfod '53 golygu

Dyfnallt Morgan oedd awdur y bryddest eisteddfodol Y Llen, ond nid hi oedd y bryddest fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1953. Er i un o'r beirniaid, Saunders Lewis, fod eisiau coroni Dyfnallt Morgan, yr oedd y ddau feirniad arall, J. M. Edwards a T. H. Parry-Williams, yn unfryd yn ei herbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifo "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli." (Cyfansoddiadau 1953, t. 73). Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)
  • Y Llen a Myfyrdodau Eraill (1967)
  • Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1968)
  • Rhyw Hanner Ieuenctid: Astudiaeth o Gerddi ac Ysgrifau T.H. Parry-Williams rhwng 1907 a 1928 (1971)
  • Y Ferch o Ddolwar Fach (1977). Astudiaeth o waith a bywyd yr emynes Ann Griffiths
  • Y Wlad sy' Well (1984). Hunangofiant.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.