Dyfrig Wynn Jones
Golygydd, newyddiadurwr a chyfarwyddwr teledu Cymreig yw Dyfrig Wynn Jones (ganwyd Ionawr 1977).
Dyfrig Wynn Jones | |
---|---|
Ganwyd | Ionawr 1977 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Gwaith
golyguMae'n darlithio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, yn arbenigo mewn Ymarfer a Theori'r Cyfryngau. Ei ddiddordebau ymchwil yw ffilmiau a rhaglenni dogfen, theori cynhyrchu, polisi'r cyfryngau, a chomics.
O fis Tachwedd 2006 i Fawrth 2009 ef oedd golygydd cylchgrawn Barn, a chyn hynny bu'n gweithio fel cynhyrchydd-gyfarwyddwr gyda Ffilmiau'r Bont sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon.
Roedd Dyfrig yn aelod o Bwyllgorau Cynnwys ac Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.[1] Roedd hefyd rhwng 2011 a 2013, yn un o gyfarwyddwyr Awdurdod S4C (a'r canlynol: S4C Digital Media Ltd, S4C Masnachol Cyf, S4C Rhyngwladol Cyf ac S4C2 Cyf).[2]
Gwleidyddiaeth
golyguCafodd ei ethol fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn 2008. Roedd yn cynrychioli ward Gerlan ond ni gystadlodd yn etholiadau Mai 2017.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Dyfrig Wynn Jones ar Twitter
- Blog Answyddogol - blog personol Dyfrig Jones