Agwedd o ddiddigio a chymodi â'r gwrthwynebwr neu'r gelyn yn y gobaith o gael heddwch yw dyhuddiad. Defnyddir mewn cyd-destun gwleidyddol, ac yn enwedig polisi tramor a diplomyddiaeth. Yr enghraifft glasurol yw polisi'r Deyrnas Unedig tuag at lywodraethau ffasgaidd yr Almaen a'r Eidal yn y 1930au. Gwrthododd y Prif Weinidog Neville Chamberlain i wrthwynebu rhyfel yr Eidal yn Ethiopia (1935) a'r Anschluss (1938), a chaniatáodd i'r Almaen gyfeddiannu rhannau o Tsiecoslofacia yn ôl Cytundeb München.[1] Methodd yr ymdrechion i atal y rhyfel mwyaf yn hanes, yr Ail Ryfel Byd. Hyd heddiw, mae'r cyhuddiad o ddyhuddo a'r enw München yn sarhad yn niwylliant gwleidyddol Prydain.

Y Deyrnas Unedig cyn yr Ail Rhyfel BydGolygu

‘Dyhuddo’ yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio polisi tramor Prydain o dan y prif weinidogion Stanley Baldwin a Neville Chamberlain rhwng 1935 ac 1939. Diben y polisi oedd osgoi rhyfel a gwrthdaro trwy drafod, negodi a chyfaddawdu. Roedd y polisi’n boblogaidd ym Mhrydain gan nad oedd y mwyafrif o bobl eisiau gweld rhyfel arall.

Ar ôl dwy flynedd o wylio polisi tramor ymosodol Hitler, roedd Baldwin wedi bod yn ystyried a ddylai Prydain roi’r gorau i heddychiaeth er mwyn ailarfogi Prydain. Er bod barn pobl Prydain yn dechrau newid yn araf bach, roedd yn ymwybodol hefyd bod heddychiaeth yn dal i fod yn boblogaidd iawn. Nid oedd yr un fath yn wir am ailarfogi. Ymddiswyddodd Baldwin yn lle gorfod wynebu penderfyniad o’r fath. Daeth Neville Chamberlain i gymryd ei le fel Prif Weinidog. Roedd Chamberlain yn credu y gallai gadw’r heddwch.

Credai Chamberlain y byddai Hitler yn fodlon pe bai tiroedd penodol yn cael eu rhoi iddo, sef y rhai yr oedd yn honni eu bod yn eiddo i’r Almaen. Roedd Hitler yn dymuno uno’r Almaenwyr hynny a oedd yn byw yn y tiroedd a gafodd eu cymryd ar ôl Cytundeb Versailles. Ar ôl cael y tiriogaethau hyn, roedd Chamberlain yn gobeithio y byddai Hitler yn ymddwyn yn rhesymol, yn cadw at gytundebau oedd wedi cael eu harwyddo ac yn setlo unrhyw anghydfod pellach trwy drafodaeth. Roedd Chamberlain yn credu’n gryf nad oedd Hitler eisiau rhyfel a’i fod mor awyddus ag yntau i gadw’r heddwch.

Roedd llawer o gefnogaeth yn y wlad i bolisi Chamberlain gan ei fod yn cydymdeimlo’n gryf â heddychiaeth. Cefnogwyd Chamberlain yn y Senedd gan y Blaid Lafur. Roedd llawer o wleidyddion hyd yn oed yn edmygu Hitler am ei waith yn gwella sefyllfa diweithdra ac yn gwella’r dirwasgiad economaidd yn yr Almaen. Yn 1936, aeth Lloyd George mor bell â chyfarfod â Hitler yn yr Almaen. Ar ôl hyn, dywedodd Lloyd George yn gyhoeddus ei bod yn bosibl ymddiried yn y Canghellor. Roedd Chamberlain yn cytuno ac yn awgrymu, gan fod ceisio sicrhau diogelwch Ewrop o dan Cynghrair y Cenhedloedd wedi methu, nad oedd dewis arall ond derbyn ei bolisi ef. Roedd rhai o gefnogwyr ceidwadol Chamberlain yn credu y gallai Hitler gael ei ddefnyddio i amddiffyn Prydain rhag lledaenu comiwnyddiaeth Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd (UGSS). Roedd ychydig o bobl yn dal o’r farn bod yr Almaenwyr wedi cael eu trin yn wael yn Versailles ac yn cydymdeimlo gyda’u hawl nhw i gael eu huno o dan un arweinydd. Nid oedd Prydain yn awyddus ychwaith i fynd i ryfel yn y cyfnod hwn am nad oedd yn barod yn filwrol am ryfel; dim ond newydd ddechrau ailarfogi yr oedd hi, ac nid oedd yn gallu ei hamddiffyn ei hun rhag ymosodiad pendant. Yn waeth fyth, roedd y dirwasgiad economaidd, gyda diweithdra uchel ym Mhrydain, wedi lleihau’n sylweddol faint o arian yr oedd Prydain yn gallu ei wario ar arfau a’r fyddin.

Ar y llaw arall, roedd llawer o bobl ym Mhrydain yn credu na ddylai’r wlad fod yn gwneud llawer â phobl fel Hitler. Un o feirniaid mwyaf polisi dyhuddo Llywodraeth Prydain oedd Winston Churchill a oedd yn Aelod Seneddol ar y meinciau cefn ar y pryd. Nid oedd llawer yn y llywodraeth yn gwrando arno, ond roedd yn ennill cefnogaeth ar lawr gwlad. Roedd Churchill yn benderfynol nad oedd modd osgoi rhyfel oni bai bod Hitler yn cael ei rwystro.[2]

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) appeasement (foreign policy). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mehefin 2017.
  2. "Dirwasgiad a Rhyfel" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 22 Mai 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.