Neville Chamberlain

Gwleidydd Seisnig a fu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1937 hyd 1940 oedd Arthur Neville Chamberlain (18 Mawrth 18699 Tachwedd 1940). Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Bu’n aelod o Lywodraeth Glymblaid David Lloyd George adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn nes ymlaen, ymhlith swyddi eraill yn ei yrfa gwleidyddol, bu’n Weinidog Iechyd ac yn Ganghellor y Drysorlys. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Nghynhadledd München.[1]

Neville Chamberlain
Neville-Chamberlain.jpg
Ganwyd Arthur Neville Chamberlain Edit this on Wikidata
18 Mawrth 1869 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata (71 oed)
Achos: gastrointestinal system cancer, canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Reading Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
Swydd Arglwydd Lywydd y Cyngor, Canghellor y Trysorlys, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Lord Mayor of Birmingham, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Tad Joseph Chamberlain Edit this on Wikidata
Mam Florence Kenrick Edit this on Wikidata
Priod Anne Chamberlain Edit this on Wikidata
Plant Dorothy Ethel Chamberlain, Francis Neville Chamberlain Edit this on Wikidata
Perthnasau George Hamilton Kenrick Edit this on Wikidata
Llofnod
Neville Chamberlain Signature 2.svg

Wrth weld Ewrop yn cael ei harwain tuag at ail ryfel byd oherwydd bygythiad Natsïaeth ceisiodd Chamberlain gyfaddawdu a chwrdd gyda gofynion cynyddol Hitler am rhagor o dir a phŵer. Roedd yn gwneud hyn er mwyn ceisio osgoi rhyfel arall. Enw’r polisi yma oedd ‘dyhuddiad’. Yn 1938 unodd Hitler Awstria gyda’r Almaen yn yr ‘Anschluss’ a meddiannu Tir y Swdeten (rhan o Tsiecoslofacia) er mwyn creu un Almaen fawr Almaeneg ei hiaith. Ym Medi 1938 llofnododd Chamberlain Gytundeb Munich gyda Hitler er mwyn ceisio osgoi rhyfel ond ofer fu ei ymdrech. Wedi i’r Almaen oresgyn Pwyl ar Fedi’r 1af, 1939 gorfodwyd Chamberlain i gydnabod ei fod wedi methu rhwystro Hitler. Chamberlain oedd Prif Weinidog Prydain pan gyhoeddodd y wlad ryfel ar yr Almaen ar Medi’r 3ydd, 1939. Prin dros flwyddyn wedi cychwyn y rhyfel ymddiswyddodd Chamberlain fel Prif Weinidog a throsglwyddwyd awenau pŵer i Winston Churchill fel arweinydd y Llywodraeth newydd.[2]  

Bywyd cynnarGolygu

Ganed ef yn ninas Birmingham, yn fab i Joseph Chamberlain, maer y ddinas, ac yn frawd Austen Chamberlain. Bu farw ei fam pan oedd yn 6 oed. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol yn 42 oed, pan etholwyd ef i gyngor Birmingham. Saith mlynedd yn ddiweddarach, etholwyd ef yn Aelod Seneddol.

Roedd ei dad, Joseph Chamberlain, wedi bod yn weinidog yn Llywodraeth Rhyddfrydol y Prif Weinidog, William Gladstone, ac hefyd yn nes ymlaen bu’n weinidog yn Llywodraeth Geidwadol, yr Arglwydd Salisbury, ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif.[1]

Yn ei ugeiniau cynnar bu Neville Chamberlain yn rheolwr ar ystâd 20,000 erw ei dad yn y Bahamas ac yna dychwelodd i weithio yn y diwydiant metel yn Birmingham.[3]

Gyrfa gwleidyddolGolygu

Bu’n gynghorydd lleol a maer yn Birmingham cyn iddo yn 1918 gael ei ethol fel Aelod Seneddol Ceidwadol yn Ladywood, sef ardal yn Birmingham. Cafodd amrywiaeth o swyddi fel Gweinidog Iechyd yn 1923 ac fel Canghellor y Trysorlys yn 1929 yn Llywodraethau Andrew Bonar Law a Stanley Baldwin.[4]

Llywodraeth Genedlaethol oedd yn rheoli Prydain rhwng 1931 a 1939 a gwahoddwyd ef gan Ramsay MacDonald, Prif Weinidog y Llywodraeth Genedlaethol, i ymgymryd â swydd Canghellor yn y llywodraeth honno yn 1931. Penodwyd Chamberlain yn 1937 fel Prif Weinidog y Llywodraeth yma a fe oedd wrth y llyw pan gyhoeddodd Prydain ryfel ar yr Almaen ym Medi 1939. Ymddiswyddodd Chamberlain fel Prif Weinidog a throsglwyddwyd awenau pŵer i Winston Churchill yn 1940.

Prif WeinidogGolygu

Yn ystod y 1930au roedd pryder cynyddol wedi bod ymhlith gwledydd Ewrop tuag at ymddygiad yr Almaen. Yn ystod y ddegawd honno roedd yr Almaen wedi ehangu ei phŵer morwrol ac wedi cynyddu ei grym milwrol o dan arweinyddiaeth Adolf Hitler, a oedd wedi dod yn Führer, sef unbennaeth, yr Almaen yn 1934. Roedd Hitler yn awyddus i ddial am y cywilydd a ddioddefodd yr Almaen oherwydd Cytundeb Versailles yn 1919. Yn wyneb hynny, roedd Chamberlain, fel Prif Weinidog, yn awyddus i ddilyn ‘polisi dyhuddo’, sef ceisio rhoi consesiynau i Hitler yn y gobaith y byddai’n medru sicrhau heddwch yn Ewrop. Gobeithiai Chamberlain, y byddai datrysiad heddychlon i ymddygiad ymosodol yr Almaen a bod angen gwneud pob ymdrech i osgoi rhyfel yn enwedig yn sgil atgfoion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf.

1938Golygu

Er gwaethaf ymdrechion gorau Chamberlain, roedd Hitler yn parhau i yrru ei bolisi tramor ymosodol yn ei flaen. Yn 1938, defnyddiodd Hitler rym i fynd i mewn i Awstria gan honni bod ei gydwladwyr a oedd yn siarad Almaeneg yn y wlad am uno gyda’r Almaen. Protestiodd Chamberlain, ond ni weithredodd. Aeth Hitler ymlaen ac uno gyda Awstria, uniad oedd yn cael ei adnabod fel yr ‘Anschluss’, gweithred a oedd yn torri un o dermau Cytundeb Versailles. Roedd hyn yn sbardun i Hitler fentro ymhellach a dechreuodd fynnu bod gan Almaenwyr a oedd yn byw yn ardal Swdeten, Tsiecoslofacia hawl i hunanbenderfyniad. Rhoddodd Hitler orchymyn i Heinlein, arweinydd Almaenwyr Tsiecoslofacia, drefnu gorymdeithiau a gwrthdystiadau yn mynnu eu bod yn cael uno â’r Almaen. Bwriad Hitler oedd ail-feddiannu Tir y Swdeten, rhan o Tsiecoslofacia, wedi i’r Almaen cael ei gorfodi i roi’r tir nôl i Tsiecoslofacia ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwnaeth Chamberlain un ymdrech olaf a pherswadiodd Hitler i fynychu cynhadledd heddwch y pedwar pŵer (yr Eidal, yr Almaen, Ffrainc a Phrydain) ym München. Llwyddodd Chamberlain a Daladier, Prif Weinidog Ffrainc, i berswadio Hitler i arwyddo cytundeb a oedd yn dweud mai dim ond ardal y Swdeten y gallai ei chymryd. Cytunodd y pedwar pŵer i warantu annibyniaeth gweddill tiriogaeth Tsiecoslofacia. Arwyddodd Hitler a Chamberlain ddatganiad hefyd yn dweud nad oedden nhw’n bwriadu mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Dyma oedd Cytundeb München a lofnodwyd ym mis Medi 1938, a welwyd fel elfen bwysig o’r polisi dyhuddo ac felly rhoddwyd Tir y Swdeten i’r Almaen. Dychwelodd Chamberlain i Brydain yn fuddugoliaethus gan ddatgan, ‘Rwy’n credu y cawn heddwch yn ein dyddiau ni.’ Roedd ymdeimlad cyffredinol o ryddhad trwy Brydain ac roedd Chamberlain yn cael ei weld fel arwr cenedlaethol. Ar y llaw arall, roedd pobl Tsiecoslofacia yn teimlo eu bod wedi cael eu bradychu.[5]

1939Golygu

 
Portread o Neville Chamberlain (1929) gan William Orpen

Erbyn 1939 tyfodd y pwysedd ar Chamberlain i gyhoeddi rhyfel oherwydd perthynas Prydain gyda gwledydd eraill yn Ewrop a oedd yn gwynebu ymddygiad ymosodol yr Almaen. Roedd Prydain a Ffrainc wedi addo i Wlad Pwyl y byddent yn ei chefnogi pe bai Hitler yn mynnu bod y Coridor Pwylaidd yn cael ei ddychwelyd. Rhoddwyd addewid gan y ddwy wlad y byddent yn cyhoeddi rhyfel pe bai milwyr yr Almaen yn goresgyn y wlad. Pwyswyd ar y Llywodraeth Geidwadol i lunio cytundeb gyda Rwsia Sofietaidd ond gwrthododd y Ceidwadwyr wneud hynny. Roedd Stalin, arweinydd Rwsia Sofietaidd, yn ofni’r Almaen ac oherwydd na allai ymddiried ym Mhrydain na Ffrainc, daeth i gytundeb gyda Hitler ym mis Awst 1939, sef y Cytundeb Natsi-Sofietaidd Di-drais.  

Roedd goresgyn Gwlad Pwyl yn anochel gan fod Hitler bellach yn sicr na fyddai UGSS yn dod i’w helpu. Tan y funud olaf roedd Hitler yn mentro y byddai’n well gan Chamberlain a llywodraeth Ffrainc siarad yn hytrach nag ymladd ac na fydden nhw’n cyhoeddi rhyfel, hyd yn oed pe bai’r Almaen yn goresgyn Gwlad Pwyl. Gorymdeithiodd milwyr yr Almaen i fewn i Pwyl ar Fedi’r 1af gan ddisgwyl na fyddai ymateb oddi wrth y gwledydd eraill. Tybiodd Hitler yn anghywir y tro hyn. O dan yr amgylchiadau gorfodwyd Prydain a Ffrainc i gyhoeddi rhyfel ar yr Almaen ar Fedi’r 3ydd, 1939. Yn ei ddarllediad radio i’r Deyrnas Unedig ar Fedi’r 4ydd, 1939, esboniodd Neville Chamberlain pam ei fod wedi cael ei orfodi i gyhoeddi rhyfel. Rhestrodd yr addewidion roedd Hitler wedi eu torri, yn eu plith, nifer o dermau Cytundeb Versailles fel yr ‘Anschluss’ gyda’r Almaen a goresgyniad Tir y Swdeten, a meddiannu’r Coridor Pwylaidd. Anwybyddodd Hitler telerau Cytundeb Munich a lluniodd gynghrair gyda Stalin, arweinydd gwlad Gomiwnyddol a oedd wedi cael ei ystyried ganddo fel un o elynion pennaf yr Almaen Natsïaidd. Drwy gyfeirio at y rhestr hyn o dor-addewidion yn ei araith, sylweddolodd Chamberlain eu bod yn y pendraw wedi arwain at fethiant y polisi dyhuddo ac at achosi yr Ail Ryfel Byd.

1940Golygu

Gyda ymosodiad Hitler ar Ddenmarc a Norwy ym 1940 a methiant Prydain i’w helpu i wrthsefyll y goresgyniad, rhoddwyd pwysedd cynyddol ar Neville Chamberlain ac arweiniodd hyn at ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth. Gorfodwyd iddo felly ymddiswyddo o dan yr amgylchiadau ym Mai 1940.[3]

Gydag ymddiswyddiad dramatig y Prif Weinidog yn 1940 daeth clymblaid dan arweiniad Winston Churchill i rym (roedd Churchill wedi gwasanaethu yng nghabinet rhyfel Chamberlain). Roedd y glymblaid newydd hon yn cynnwys aelodau o blaid Churchill ei hun, y Ceidwadwyr, ac aelodau Llafur a Rhyddfrydol, oedd wedi gwrthod gwasanaethu dan Chamberlain.[6] Bu Chamberlain yn aelod o’r Llywodraeth yma, hyd nes gorfodwyd ef oherwydd afiechyd, i ymddiswyddo ddiwedd Medi 1940. Bu farw rai wythnosau wedi hynny yn Nhachwedd 1940.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 "Joseph Chamberlain | British politician and social reformer". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-21.
  2. "Dirwasgiad a Rhyfel" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 21 Mai 2020.
  3. 3.0 3.1 "Neville Chamberlain | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-22.
  4. "History of Neville Chamberlain - GOV.UK". www.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-22.
  5. "Dirwasgiad a Rhyfel" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 22 Mai 2020.
  6. "Maes y Gad i Les y Wlad" (PDF). Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2020.