Kate Crockett

llenor o Gymru

Newyddiadurwraig a chyflwynydd radio Cymreig ydy Kate Crockett. Mae hi'n un o dîm y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru.[1]

Kate Crockett
GanwydAberdâr Edit this on Wikidata
Man preswylCaerdydd, Ceredigion, Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amBBC Radio Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Crockett yn Aberdâr a'i magwyd yng Nghaerdydd, Ceredigion a Merthyr Tudful. Aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Gyrfa golygu

Ar ôl graddio aeth i weithio fel newyddiadurwraig, i ddechrau gyda cylchgrawn Golwg. Ers hynnu bu'n cyflwyno ar nifer o raglenni radio a theledu gan gynnwys Hacio, Y Byd ar Bedwar, Taro 9 ar S4C; a Manylu, Stiwdio a'r Silff Lyfrau ar BBC Radio Cymru. Mae Kate wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen radio foreol Post Cyntaf ers mis Ionawr 2013. Ar 25 Ionawr 2021 newidiwyd enw y rhaglen i Dros Frecwast ac ymunodd Dylan Ebenezer fel cyflwynydd.[2]

Cyhoeddodd lyfr Mwy na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas yn 2014 a roedd ar rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2015.[1]

Llyfrau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Post Cyntaf - Kate Crockett". bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Ionawr 2016.
  2. Cyflwynydd ac enw newydd i raglen newyddion Post Cyntaf , BBC Cymru Fyw, 11 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.

Dolenni allanol golygu