Rhaglen ffeithiol a ddarlledwyd ar S4C yw Dylan ar Daith. Yn y gyfres mae Dylan Iorwerth yn olrhain hanes pobl Cymru sydd wedi gwneud eu marc dramor.

Dylan ar Daith
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata

Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Unigryw o Aberystwyth - y cyfarwyddwr yw Catrin M S Davies a'r gweithredwr camera yw Aled Jenkins.[1]

Penodau

golygu

Cyfres 1

golygu
Rhaglen Teitl Disgrifiad Dyddiad darlledu'n gyntaf
1 O Bow Street i Bolifia Dylan Iorwerth sy'n dilyn ôl troed Ifor Rees, diplomydd, ffotograffydd brwd, dringwr dygn, ac awdur llyfrau taith. 2015
2 O San Steffan i Tennessee Dylan Iorwerth sy'n dilyn taith Y Gohebydd, John Griffith, radical a chyfathrebwr pwysig yn ei oes. 2015
3 O Fôn i Assam Mae Dylan Iorwerth yn teithio i'r dwyrain i Delhi, Darjeeling ac Assam, lle'r aeth menyw ifanc o Borthaethwy, Helen Rowlands, yn genhades ym 1916. 2015
4 O Hirwaun i Iowa Hanes menyw a oedd yn ddylanwadol iawn yn ei dydd ond sydd erbyn heddiw wedi mynd yn angof - Margaret Roberts. 2015
5 O Fryn y Briallu i Hawai'i Y tro hwn bydd Dylan Iorwerth yn teithio i Lundain, Vancouver, Kauai a Hawai'i ar drywydd stori David Samwell, neu Dafydd Ddu Feddyg. 2015
6 O Lundain i'r Rockies Hanes David Thompson a fapiodd afon Columbia yn ogystal â rhannau helaeth o gyfandir Gogledd America. 2015

Cyfres 2

golygu
Rhaglen Teitl Disgrifiad Dyddiad darlledu'n gyntaf
1 O Benfro i Trinidad Stori Thomas Picton, y milwr o Sir Benfro a ddaeth yn Llywodraethwr cyntaf ynys Trinidad. 17 Medi 2017
2 O'r Rhos i Morocco Hanes menyw ifanc, Margaret Jones, y "Gymraes o Ganaan", a deithiodd i bum cyfandir ac a ddaeth yn enwog am ei llythyron a'i darlithoedd am wlad Canaan yn yr 1860au. 25 Medi 2017
3 O Drefeglwys i Sardinia Dylan Iorwerth sy'n ymweld â phentre' bychan yn Yr Eidal, ar ynys Sardinia, ar gyfer agor amgueddfa i goffau Benjamin Piercy, un o beirianwyr rheilffyrdd cynnar Cymru a'r Eidal ac a gynlluniodd a chodi pont rheilffordd Y Bermo. 1 Hydref 2017
4 O Ystalyfera i Israel Stori Lily Tobias o Ystalyfera, awdur ac ymgyrchydd oedd yn dyheu am diriogaeth i'w chenedl yr Iddewon. 8 Hydref 2017
5 O Ffaldybrenin i Tsieina Stori Timothy Richard, y cenhadwr pwysicaf i fynd i Tsieina erioed, yn ôl rhai. Hydref 2017
6 O Aberystwyth i'r Almaen Mae rhaglen ola'r gyfres yn olrhain hanes Goronwy Rees - llenor, newyddiadurwr, milwr, academig ac efallai ysbïwr. Hydref 2017

Cyfeiriadau

golygu