Thomas Picton
Cadfridog Cymreig a laddwyd ym Mrwydr Waterloo oedd Syr Thomas Picton (24 Awst 1758 – 18 Mehefin 1815).
Thomas Picton | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
24 Awst 1758 ![]() Hwlffordd ![]() |
Bu farw |
18 Mehefin 1815 ![]() Achos: lladdwyd mewn brwydr ![]() Brwydr Waterloo ![]() |
Dinasyddiaeth |
Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
swyddog, gwleidydd ![]() |
Swydd |
Member of the 5th Parliament of the United Kingdom ![]() |
Gwobr/au |
Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Commander of the Order of the Tower and Sword ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed ef yn Poyston Cross yn ne Sir Benfro, yn fab iau i Thomas Picton o Poyston Hall. Ymunodd a'r fyddin yn 1771, fel ensign yn 12fed Catrawd y Troedfilwyr, ond ni welodd frwydro nes iddo gymeryd rhan yng nghipio ynys Sant Lwsia yn 1796. Bu'n llywodraethwr milwrol Trinidad yn y 1790au, lle cafodd yr enw am greulondeb.
Roedd yn bennaeth y 3edd adran yn Rhyfel Iberia ac enillodd gryn enw iddo'i hun. Fodd bynnag, ar ddiwedd y rhyfel nid oedd yn un o'r cadfridogion a wnaed yn arglwyddi. Roedd hyn yn siom fawr iddo, a dychwelodd i sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o geisio dod yn aelod seneddol. Urddwyd ef yn Farchog Groes Fawr Urdd y Baddon yn 1815, a phan ddihangodd Napoleon o Ynys Elba, galwyd ef yn ôl i'r fyddin. Arweiniodd y 5ed Adran yn yr ymladd yn Quatre Bras, lle cafodd ei glwyfo. Er gwaethaf ei glwyf, ymladdodd ym Mrwydr Waterloo, lle lladdwyd ef. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle mae cofgolofn iddo. Ceir cofgolofn iddo hefyd yn nhref Caerfyrddin.
CyfeiriadauGolygu
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Owen |
Aelod Seneddol Penfro 1813 – 1815 |
Olynydd: John Jones |