Benjamin Piercy
Roedd Benjamin Piercy (16 Mawrth 1827 – 24 Mawrth 1888) yn beiriannydd sifil. Roedd yn gyfrifol am ddatblygu rheilffyrdd yng Nghymru, yr Eidal, Ffrainc ac India, ac mae hefyd yn adnabyddus fel datblygwr syniadau a busnesau amaethyddol ac fel entrepreneur.[1]
Benjamin Piercy | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1827 Trefeglwys |
Bu farw | 24 Mawrth 1888 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd, peiriannydd sifil |
Plant | Ethel Mary Piercy, Eva Gertrude Piercy, Robert Charles Piercey, Arabella Margaret Piercy |
Bywyd cynnar
golyguHyfforddwyd Benjamin yn swyddfa'i dad, sef Robert Benjamin, syrfëwr tir yn siroedd Trefaldwyn, Dinbych a Fflint a phartner busnes Brunel. Ar ôl derbyn ei radd mewn Peirianneg Sifil ym 1847, daeth Benjamin yn brif gynorthwywr i Charles Mickleburgh, syrfëwr ac asiant tir yn Sir Drefaldwyn.[2] Yn 1851 gofynnodd Henry Robertson am ei gymorth i baratoi cynlluniau ar gyfer rheilffordd newydd o'r Amwythig i Gaer, ac yn ddiweddarach ar gyfer rheilffordd o Groesoswallt i'r Drenewydd. Cafodd lwyddiant mawr yn ennill cymeradwyaeth seneddol ar gyfer y linell hon, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan wrthwynebydd eraill. Ac ers hynny bu a'i fus ym mriwes bron pob prosiect rheilffordd a fu yng Nghymru. Ystyrir ffosydd Talerddig ffos yn weithiau perianyddol o bwys yn ogystal â phontydd dros yr Hafren, y Mawddach a'r Traeth Bychan afonydd a gorsafoedd arbennig iawn yng Nghroesoswallt a'r Trallwng.
Yn 1855, priododd Sarah Davies, a symudodd i Wrecsam. Cawsant dri mab a chwe merch. Ar 8 Ionawr 1861 cafodd ei ethol yn Gadeirydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil[3]
Gweithgarwch mewn gwledydd tramor
golyguFfrainc
golyguYn 1863, gyda Savin enillodd y contract ar gyfer y gwaith o adeiladu rheilffordd y Vendée - o Tours i'r Sables d'olonne.[4]
India
golyguPiercy oedd Prif Beiriannydd y gwaith o ddatblygu Rheilffordd Assam yn India, gan ei ymestyn i Burma.
Prosiectau eraill a bywyd preifat
golyguYm 1881 fe brynodd Neuadd Marchwiail ar gyfer y teulu ac yno y bu'n byw, gan ddatblygu strwythur rheilffyrdd Gogledd Cymru ymhellach er mwyn manteisio ar y mwynau newydd a gloddiwyd o'r tir.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-02. Cyrchwyd 2013-01-06. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) liceo brotzu - ↑ Marghine e turismo culturale: le opportunità dell'area di Badde Salighes di Antonella Corda
- ↑ Institution of Civil Engineers (Great Britain), Minutes of Proceedings of the Institution of Civil Engineers, The Institution, 1861
- ↑ Bulletin des lois de France, Imprimerie Royale, 1863, pag. 192