Cwmwl o ddiferion dŵr yn yr atmosffer is sy'n cyfyngu gwelededd i 1000 m neu'n llai yw niwl.[1][2]

Pont y Borth, Porthaethwy, wedi "torri ar ei hanner", fel petai, gan niwl trwchus (1958).

Mathau o niwl golygu

  • Mwrllwch

Math o niwl llygredig yw mwrllwch (Saesneg, smog).

  • ”Mwg Sipsiwn”

Ymadrodd o rai mannau yng Nghymru yw hwn i ddisgrifio’r carpiau o niwl uwchben ardaloedd di-dor o goed dan amodau arbennig (sy’n ysgogi dychmygu gwersyll o sipsiwn yn y coed). Math o gwmwl stratus yw hyn. Ar ôl sbelen o law mae’r gwynt yn aml yn disgyn; mae’r aer uwchben y coed yn llaith (wedi ei fwyhau gan drydarthiad y coed). Mae’r aer union uwchben yr ardal coed yn dueddol o fod yn fwy claear na’r mannau mwy agored oherwydd effaith cysgodol y coed, sydd yn ei dro yn cyddwyso’r gwlybaniaeth ac yn ysgogi’r glaw i ffurfio carpiau o niwl. Pan dderfydd y glaw mae’r niwl yn dueddol o godi fymryn dan ddylanwad cerryntoedd aer dyrchafol (megis y ffordd y mae niwl mwy trwchus yn ymffurfio’n haenen o gwmwl isel ychydig uwchben y ddaear). O’r diwedd, wrth i’r gwynt godi, mae’r awyr yn cynhesu a’r haul yn gwneud ei waith, mae’r carpiau niwl yn ymwasgaru[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) What is fog?. Swyddfa'r Tywydd. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  2. (Saesneg) fog (weather). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  3. Cyfieithad o esboniad y meteorolegydd Huw Holland Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40 [1]
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am y tywydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.