Ebenezer Thomas (Eben Fardd)

bardd
(Ailgyfeiriad o Eben Fardd)

Bardd ac ysgolfeistr oedd Ebenezer Thomas, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Eben Fardd (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863). Roedd yn un o feirdd Cymraeg pennaf a ffigurau llenyddol mwyaf dylanwadol ei oes, fel bardd a beirniad eisteddfodol.[1] Ysgrifennai yn y mesurau caeth a rhydd ac fel emynwr, ac roedd yn ffigwr cynnar allweddol ar ddiwedd clasuriaeth a dechrau rhamantiaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg.[2]

Eben Fardd (Ebenezer Thomas)
Engrafiad yn Gweithiau Barddonol Eben Fardd (1873)
GanwydEbenezer Thomas
Awst 1802
Llanarmon, Sir Gaernarfon, Cymru
Bu farw17 Chwefror 1863 (60 oed)
Clynnog Fawr, Sir Gaernarfon, Cymru
Enwau eraillCybi (ffugenw a gyhoeddodd oddi tano yn yr 1820au)
GwaithBardd, beirniad, athro
Gweithiau nodedigDinistr Jerusalem, Yr Atgyfodiad, Crist yn Graig Ddisygl
PriodMary Williams, Clynnog Fawr
Plant4
GwobrauCadair Eisteddfod y Trallwng 1824, Cadair Eisteddfod Lerpwl 1840, Cadair Eisteddfod Llangollen 1858

Bywgraffiad

golygu

Ganed Ebenezer Thomas gerllaw Llangybi yn Eifionydd, yn fab i wehydd. Addysgwyd ef yn Llanarmon, Llangybi ac Abererch. Pan fu farw ei frawd, Evan, oedd yn cadw ysgol yn Llangybi, cymerodd ofal yr ysgol yn 1822. Daeth i adnabod beirdd amlwg y cylch, gan gynnwys Robert ap Gwilym Ddu, Siôn Wyn ac yn enwedig Dewi Wyn, a ddaeth yn fath o athro barddonol wrth i Eben ddechrau barddoni ei hun pan oedd dal yn ei arddegau. Y beirdd hyn oedd ei ddylanwadau mawr cyntaf ac roeddynt, ynghyd ag Eben Fardd ei hun, yn grŵp o feirdd o Eifionydd a ystyrid, ar y pryd, yn rai o feirdd pennaf Cymru. Yn ddiweddarach byddai'n talu teyrnged i'r beirdd hyn ac eraill yn y gerdd Eifionydd. Roedd Goronwy Owen hefyd yn ddylanwad bwysig arno.[3][4] Mae'r cerddi cynharaf o'i eiddo sydd wedi goroesi yn cynnwys cywyddau diolch ac englynion coffa, yn ogystal â cherddi rhydd mewn dull cyn-ramantaidd megis Myfyrdod Ymysg y Beddau a Myfyrdod ar Lan Afon. Cyhoeddwyd llawer o'r cerddi hyn dan y ffugenw "Cybi o Eifion".

Daeth ei lwyddiant mawr cyntaf yn 1824 pan enillodd gadair Eisteddfod Powys yn y Trallwng gydag awdl ar y testun Dinistr Jerusalem gan y Rhufeiniaid. Er gwaethaf mai cynnyrch bardd ifanc dwy ar hugain oed ydoedd, hwyrach mai'r gerdd a gyfansoddodd ar gyfer y gystadleuaeth hon yw ei gerdd mwyaf adnabyddus hyd heddiw, yn sicr o blith ei gyfansoddiadau Eisteddfodol.[1][4][5] Oherwydd mor ifanc oedd y bardd adeg ei fuddugoliaeth, bu cyhuddiadau o lên-ladrad ar y pryd: honwyd (yn ddi-sail) mai Dewi Wyn oedd gwir awdur y gerdd.[6]

Yn 1825 aeth i gadw ysgol yn Llanarmon, ac yn 1827 aeth i Glynnog Fawr, lle byddai'n byw am weddill ei oes yn gweithio fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach dechreuodd ei ysgol dderbyn nawdd y Methodistiaid Calfinaidd. Fel llawer o athrawon y cyfnod yng Nghymru, mae'n hysbys i Eben Fardd ddefnyddio'r Welsh Not yn ei ystafell ddosbarth a chosbi'i ddisgyblion am siarad Cymraeg.[7]

Yn 1830 priododd Mary Williams, a chawsant bedwar o blant; gweithiai Mary fel pobyddes ac ategai Eben at eu hincwm drwy gadw siop, rhwymo llyfrau, ac yn ddiweddarach bu'n bostfeistr.[1]

Ymgeisiodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Biwmares 1832 gydag awdl ar ddryllio'r Rothsay Castle;[8] Caledfryn oedd yn fuddugol yr adeg honno. Ond bu'n fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl yn 1840 gyda'i awdl Cystudd, Amynedd, ac Adferiad Iob; cyhoeddwyd yr awdl honno a Dinistr Jerusalem yn 1841; yn sgil y llwyddiant newydd hwn ystyriwyd ef yn un o feirdd mawr y genedl gan ei gyfoeswyr a thua'r adeg hon y dechreuwyd cyfeirio ato fel "Eben Fardd".

Roedd Eben yn aelod o'r Methodistiaid Calfinaidd, eglwys ei rieni, am y rhan fwyaf o'i oes, ar wahân i gyfnod y tu allan i'r eglwys yn yr 1820au. Ysgrifennodd nifer o emynau, y mwyaf adnabyddus yn eu plith Crist yn Graig Ddisigl, ddaeth yn emyn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd y capeli. Ysgrifennwyd yr emyn hon, y cyfeirir ati weithiau gan ei llinell cyntaf, "O! fy Iesu bendigedig," yn hwyr yn yr 1850au wedi marwolaethau Mary a thri o'i bedwar plentyn o fewn cyfnod byr.[9]

Yn 1858 enillodd ei drydedd gadair yn Eisteddfod Llangollen gydag awdl ar y testun Brwydr Maes Bosworth.

Nid awdl fodd bynnag oedd ei waith mwyaf uchelgeisiol, ond y bryddest hir Yr Atgyfodiad, cerdd o bron i 3,000 o linellau a ysgrifennodd yn 1850. Bu methiant y gerdd yn Eisteddfod Rhuddlan - cerdd symlach a byrrach o lawer gan Ieuan Glan Geirionydd oedd yn fuddugol - yn siomedigaeth fawr i'r bardd; fodd bynnag profodd y bryddest, a dderbyniodd clod gan y beirniaid eraill, yn un bwysig iawn yn ei yrfa ac yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Er mai colli gwnaeth, bu'n gerdd allweddol yn hanes yr arwrgerdd yn Gymraeg, gan ddechrau ffasiwn fyddai'n parhau am weddill y ganrif; ystyriwyd y gerdd yn gampwaith gan Gwilym Hiraethog (a aeth ymlaen i ysgrifennu ei arwrgerdd yntau Emmanuel), a bu'n fodel ar gyfer nifer o arwrgerddi diweddarach.[10]

 
Bedd Ebenezer Thomas, Clynnog, c.1885

Nid enillodd yr un o wobrwyau'r Eisteddfod Genedlaethol gan nad oedd y sefydliad hwnnw'n bodoli ond ym mlynyddoedd olaf ei fywyd. Cystadleuodd yn aflwyddiannus, fodd bynnag, gyda'i Awdl Y Flwyddyn ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1862,[1] a enillwyd gan Hwfa Môn.

Bu farw Eben yn 1863, a claddwyd ef ym mynwent Eglwys Clynnog; yn ddiweddarach y flwyddyn honno cyhoeddwyd awdl hwyr o eiddo'r bardd, Cyff Beuno, a gyfansoddwyd ar Eglwys Clynnog. Cyhoeddwyd casgliadau o'i waith yn 1873 ac yn yr ugeinfed ganrif fel rhan o Gyfres y Fil.

Gwaddol

golygu
 
Llun anhysbys o'r bardd gyda'i wobrau Eisteddfodol, fel yr ymdddangosodd mewn cyfrol goffa yn 1875.

Yn ystod ei fywyd ei hun ystyriwyd Eben Fardd yn un o feirdd pennaf yr iaith Gymraeg; ac hyd heddiw fe'i ystyrir un o feirdd Cymraeg gorau a phwyiscaf ei oes.[11] Ym marn Thomas Parry roedd ganddo "fwy o anianawd y gwir fardd nag odid neb o feirdd eisteddfodol y 19eg ganrif."[1]

Yn wahanol i lawer o feirdd y cyfnod, rhagorai mewn sawl traddodiad gwahanol o fewn barddonieth Gymraeg: y canu caeth Eisteddfodol, y canu telynegol, rhamantaidd, ac fel emynydd. Serch hynny, ystyrir ei waith ar y cyfan yn anghyson, ac nad yw llawer iawn o'i weithiau'n cyrraedd uchafbwyntiau ei weithiau gorau.[12]

O'i holl weithiau barddonol, yr Awdl Dinistr Jerusalem a enwir yn amlycaf fel ei gampwaith, er mai gwaith cynnar iawn ydoedd. Enwyd y gerdd yn un o "awdlau gwychaf yr iaith Gymraeg"[5] cyn yr ugeinfed ganrif. Ym marn E. G. Millward ni lwyddodd Eben Fardd atgynhyrchu llwyddiant yr awdl hon yn yr un o'i gyfansoddiadau Eisteddfodol diweddarach, er bod rhinweddau i rannau o Cystudd Iob a Brwydr Maes Bosworth ymysg eraill.[12] Erbyn degawdau olaf ei oes ystyrid ef yn un o feirdd pwysicaf ei gyfnod, a bu'n feirniad mewn eisteddfodau ac yn ddylanwadol iawn yn y rhinwedd hwnnw, gan osod seiliau cadarnach i farddoniaeth a mynnu "mai'r hyn oedd gan y bardd i'w ddweud" oedd fwyaf pwysig.[4] Yn ystod Eisteddfod Aberffraw yn 1849 bu helynt pan enillodd Nicander y wobr am ei awdl Y Greadigaeth, er bod Eben Fardd eisiau rhoi'r wobr i awdl arall gan Emrys. Fodd bynnag, gallai fod yn rhy geidwadol yn ei feirniadaethau hefyd, yn enwedig tua diwedd ei oes. Yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1960 er enghraifft, barnodd bod rhannau o bryddest Golyddan Iesu cystal â gwaith Milton neu Dante; serch hynny rhoddodd y wobr i Nicander gan fod Golyddan, ym marn Eben Fardd, yn "dangos gormod beiddgarwch yn ei gynllun, ei syniadau a'i ddull mynegi".[13]

Bu'n dylanwad bwysig ar nifer fawr o feirdd eraill gan gynnwys Hwfa Môn, Tudno, Dyfed; fodd bynnag dadleuodd W. J. Gruffydd (a ystyriai Eben Fardd yn fardd Cymraeg orau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg) mai negyddol fu'r ddylanwad honno ar y cyfan,[3] oherwydd culni ei fyd-olwg. Cytunai E. G. Millward, gan nodi mai camgymeriad dilynwyr Eben Fardd oedd dilyn ei esiampl yn ei weithiau gwael yn hytrach na'r gorau o'i waith.[12] Er mai methiant fu'r gerdd yng nghystadleuaeth yr Eisteddofd, roedd Yr Atgyfodiad yn enwedig yn ddylanwad sylweddol ar feirdd diweddarach yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan "agor... y drws ar Oes Aur yr arwrgerdd yng Nghymru".[10] Nodweddir llawer o'i waith gan brudd-der difrifol, yr hyn sy'n amlwg mewn teitlau nifer sylweddol o'i gerddi, megis Myfrdod Ymysg y Beddau, Cân yr Unig, Gwagedd y Byd yn Angau ac O'r Byd i'r Bedd. Yn y gerdd Mangofion am Chwilog (1836), ceir y llinellau:

Mae eto’r fath bleser mewn prudd-der,
A mwyniant o drymder ar dro
Na fynnwn, pe medrwn ymatal,
Byth beidio a’u cynnal mewn co!

Bardd oedd a'i waith yn pontio rhwng dau gyfnod barddonol, sef clasuriaeth y ddeunawfed ganrif, fel gynrychiolir gan Goronwy Owen, a rhamantiaeth y bedwaredd ganrif, a flodeuodd yn llawn yng ngwaith beirdd diweddarach fel Islwyn a Ceiriog. Meddai E. G. Millward amdano, "Cychwynodd Eben Fardd ei yrfa â'i wreiddiau yng nghlasuriaeth y ddeunawfed ganrif... Cyn bo hir, bu'n ymagweddu fel beirdd cyn-rhamantaidd Lloegr a chyn diwedd ei fywyd nid gormod dweud ei fod yn un o arloeswyr pwysicaf rhamantiaeth Gymreig."[2]

Profodd Eben fardd lwyddiant eisteddfodol gyda sawl cerdd hir yn ystod ei oes. Fodd bynnag, tra'n cydnabod llwyddiant cydnabyddedig Dinistr Jerusalem (sydd, er yn awdl o ychydig gannoedd o linellau, yn gerdd gymharol fer o'i chymharu â llawer o gerddi hir y bedwaredd ganrif ar bymtheg) ar ddechrau ei yrfa, dadleuodd Robert Rhys mai cerddi byr y bardd yw ei rai gorau: "Yn y darnau llai uchelgeisiol y gwelir doniau Eben Fardd yn cael llonydd gan oruchelgais ei gyfnod: yn y Cywydd Ymweliad â Llangybi, Eifionydd (1854), yn y tribannau swynol Molawd Clynnog ac yn y gerdd ar y mesur tri-thrawiad i'w fro enedigol, Eifionydd, ac yn bennaf oll yn yr emyn ingol brofiadol, Crist yn Graig Ddisigl...".[14]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Cyff Beuno' (1863)
  • Gweithiau Barddonol, etc., Eben Fardd (1873)
  • 'Emyn Mawr Eben Fardd': gwerthfawrogiad o'r emyn 'O! fy Iesu bendigedig' gan yr Athro E. Wyn James ar Utgorn Cymru, rhifyn 101 (Gwanwyn 2020) - https://uwchgwyrfai.cymru/

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Thomas Parry. "Thomas, Ebenezer ('Eben Fardd'; 1802-1863), ysgolfeistr a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 15 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 Millward, E.G. (1988) Eben Fardd. Caernarfon. t.49
  3. 3.0 3.1 Gruffydd, W. J. 'Eben Fardd' yn Y Llenor 1926 t.145
  4. 4.0 4.1 4.2 Stephens, Meic (gol.) (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.705.
  5. 5.0 5.1 Gruffydd, W. J. 'Eben Fardd' yn Y Llenor 1926 t.252
  6. Millward, E.G., 'Agweddau ar waith Eben Fardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1980, t149.
  7. Johnes, Martin (2024) Welsh Not: Elementary Education and the Anglicisation of Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, t.49.
  8. Cymru Cyf. 21 (1901) t.26
  9. Russell Davies (2005). Hope and Heartbreak: A Social History of Wales and the Welsh, 1776-1871 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 22, 156. ISBN 978-0-7083-1933-8.
  10. 10.0 10.1 Millward, E.G., 'Agweddau ar waith Eben Fardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1980, t155.
  11. Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas.
  12. 12.0 12.1 12.2 Millward, E.G., 'Agweddau ar waith Eben Fardd', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1980, tt246-7.
  13. Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas. t.12
  14. Rhys, Robert (1999) 'Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg' yn Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a'i pheuoedd, 1801-1911. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.256
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: