Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850).[1]
Robert Williams | |
---|---|
Ffugenw | Robert ap Gwilym Ddu |
Ganwyd | 6 Rhagfyr 1766 Sir Gaernarfon, Llanystumdwy |
Bu farw | 11 Gorffennaf 1850 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, bardd, ffermwr |
Bywyd a gwaith
golyguGaned ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Enw'i fam oedd Jane (neé Parry) a'i dad oedd Williams Williams; roedd ganddo ddwy chwaer ac un brawd a gwyddwn i un o'i chwiorydd symud i Lanbedr ar ôl priodi. Bu'n ffermio yn y "Betws Fawr" am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd ferch ifanc o'r enw Catrin Elizabeth pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834 o'r diciau (neu y ddarfodigaeth).[2] Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus.
Roedd Robert yn gyfaill i'r bardd Dewi Wyn o Eifion ac i'r pregethwr J. R. Jones, Ramoth.[1]
Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes":
Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweud yn iawn amdano. [...]
Llyfryddiaeth
golygu- Gardd Eifion (1841). Casgliad o waith y bardd.
- Cybi (gol.), Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ab Gwilym Ddu (1911)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Ar-lein
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 27 Mai 2016.