Epidemig Ebola Gorllewin Affrica, 2013-16
Dechreuodd epidemig o glefyd y feirws Ebola yng ngwlad Gini yn Rhagfyr 2013, ond ni chafodd yr epidemig ei ganfod tan Mawrth 2014,[9] ac yn hwyrach ymledodd i Liberia, Sierra Leone, Nigeria a Senegal. Achoswyd yr epidemig gan y feirws Ebola (Zaire ebolavirus). Yn Ionawr 2015, nid oedd Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi fod yr epidemig drosodd, gan fod un neu ddau achos unigol wedi codi ei ben yn ystod 2015;[10] credir hefyd fod oddeutu 11,310 o bobl wedi marw o Ebola - ychydig dros 70% o'r rhai a ddaliodd y firws.
Y sefyllfa yng ngorllewin Affrica | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad | Rhagfyr 2014 – Mawrth 2016 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Marwolaethau | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Hwn yw'r tarddiant mwyaf difrifol o Ebola yn nhermau'r nifer o achosion a marwolaethau ers darganfyddiad y feirws ym 1976,[11] ac mae'r nifer o achosion o'r epidemig presennol yn fwy na'r achosion o'r holl epidemigau cynt gyda'i gilydd.[12] Ni chredir bod tarddiant arall o'r clefyd yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a laddodd 13 o bobl erbyn 26 Awst 2014, yn gysylltiedig â'r epidemig yng Ngorllewin Affrica.[13]
Erbyn 26 Awst 2014, bu cyfanswm o 3,069 o achosion a 1,552 o farwolaethau (1,752 o achosion a 897 o farwolaethau wedi eu cadarnhau mewn labordai), yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a'r Centers for Disease Control (CDC).[13][14] Cred nifer o arbenigwyr taw tanamcangyfrif yw'r ystadegau swyddogol oherwydd bod nifer o deuluoedd yn anfodlon i roi gwybod i'r awdurdodau iechyd am achosion.[15]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Donald G. McNeil Jr. (2015). "Fewer Ebola Cases Go Unreported Than Thought, Study Finds". New York Times. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2022.
- ↑ Ebola situation report, World Health Organization, 20 Ionawr 2016; adalwyd 26 Rhagfyr 2022
- ↑ "End of Ebola transmission in Guinea" (Press release). World Health Organization. 29 Rhagfyr 2015. http://www.afro.who.int/en/media-centre/pressreleases/item/8252-end-of-ebola-transmission-in-guinea.html. Adalwyd 29 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Ebola situation report" (PDF). World Health Organization. 21 Ionawr 2015. Cyrchwyd 22 Ionawr 2015.
- ↑ "Ebola response roadmap – Situation report 24 December 2014". World Health organization. 26 Rhagfyr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-09. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Ebola situation report". World Health Organization. 22 Gorffennaf 2015.
- ↑ WHO (22 Hydref 2014). "Ebola Response Roadmap Situation Report" (PDF). who.int. Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
- ↑ "Situation summary". World Health organization. 5 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2014.
- ↑ Roy-Macaulay, Clarence (31 Gorffennaf 2014). "Ebola Crisis Triggers Health Emergency". Drug Discov. Dev. Highlands Ranch, Colorado, UDA: Cahners Business Information. Associated Press. Cyrchwyd 3 Awst 2014.
- ↑ "WHO – WHO Director-General addresses the Executive Board". World Health Organization. Cyrchwyd 27 Ionawr 2016.
- ↑ "Chronology of Ebola Hemorrhagic Fever Outbreaks". Centers for Disease Control and Prevention. 24 Mehefin 2014. Cyrchwyd 25 Mehefin 2014.
- ↑ "Ebola 2014 — New Challenges, New Global Response and Responsibility", New England Journal of Medicine, 20 Awst 2014; adalwyd 31 Awst 2014
- ↑ 13.0 13.1 "Ebola virus disease – Democratic Republic of Congo". Epidemic & Pandemic Alert and Response (EPR) - Outbreak News. WHO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-25. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
- ↑ "2014 Ebola Outbreak in West Africa". Centers for Disease Control and Prevention.
- ↑ McNeil, Donald G., Jr. (13 Awst 2014). "Using a Tactic Unseen in a Century, Countries Cordon Off Ebola-Racked Areas". The New York Times. Cyrchwyd 14 Awst 2014.