Cronfa Ariannol Ryngwladol
Corff rhyngwladol yn ymwneud â materion economaidd yw'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (Saesneg: International Monetary Fund a dalfyrrir fel rheol i IMF). Fe'i sefydlwyd yn 1944, yr un pryd a Banc y Byd, a dechreuodd yn swyddogol yn Rhagfyr 1945. Mae bron pob gwlad sy'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig yn aelodau o'r Gronfa, ac eithrio Ciwba, Taiwan, Gogledd Corea ac ychydig o wledydd bychain iawn.
Enghraifft o'r canlynol | international financial institution, asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Gorffennaf 1944 |
Pennaeth y sefydliad | Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol |
Prif weithredwr | Kristalina Georgieva |
Aelod o'r canlynol | Network for Greening the Financial System, ORCID |
Gweithwyr | 2,908 |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Washington |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.imf.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Amcanion
golygu- hybu cydweithrediad economaidd a sefydlogrwydd.
- sicrhau tŵf economaidd.
- rhoi cymorth i wledydd i gywiro problemau gyda balans taliadau
Cyfarwyddwyr
golyguYn draddodiadol, mae Cyfarwyddwr y Gronfa yn dod o Ewrop, tra fod pennaeth Banc y Byd yn dod o'r Unol Daleithiau.
- 1946 – 1951: Camille Gutt
- 1951 – 1956: Ivar Rooth
- 1956 – 1963: Per Jacobsson
- 1963 – 1973: Pierre-Paul Schweitzer
- 1973 – 1978: Johannes Witteveen
- 1978 – 1987: Jacques de Larosière
- 1987 – 2000: Michel Camdessus
- 2000 – 2004: Horst Köhler
- 2004 (dros dro): Anne Krüger
- 2004 – 2007: Rodrigo de Rato y Figaredo
- 2007 – heddiw: Dominique Strauss-Kahn
Mae rhai wedi beirniadu'r Gronfa am ei hymlyniad wrth y farchnad rydd, ac yn dweud fod rhai o'r gwledydd tlotaf wedi cael eu gorfodi i gymeryd mesurau a oedd, yn eu tro, yn peri caledi i lawer o'u poblogaeth.
Gweler hefyd
golygu- Argyfwng economaidd 2008-presennol
- Banc y Byd
- Cwymp Wall Street
- Cynnyrch mewnwladol crynswth
- Dirwasgiad
- Dirwasgad Mawr 1929
- Diweithdra
- Economeg
- Economi Cymru
- Economi'r Deyrnas Unedig
- Rhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd Prydain