Rhestr o ddigwyddiadau economaidd Cymru
(Ailgyfeiriad o Cerrig milltir yn economi Cymru)
Dyma restr o gerrig milltir yn hanes economi Cymru.
Hanes
golygu- Cyn Oes y Rhufeiniaid yng Nghymru roedd llawer o fwyngloddio gan gynnwys copr, aur a haearn
- Roedd arian yn cael eu bathu led led y gwledydd Celtaidd am o leaif mil o flynyddoedd.
- 1300au Melinau gwlân Dyffryn Ceiriog yn peri i ogledd-ddwyrain Cymru fod y rhanbarth mwyaf datblygedig yng Nghymru o ran economi - am ganrif o leiaf.
- 1570 Ffowndri "bras and wire" yn cael ei sefydlu yn Tintern
- 1580au Datblygwyd diwydiant efydd de Cymru gan Almaenwyr a phobl o'r Iseldiroedd.
- 1666 Gwnaed mewnforio gwartheg o Iwerddon yn anghyfreithlon, er mwyn ysgogi'r diwydiant porthmona.
- 1704 Sefydlwyd ffwrnais i doddi plwm ac arian (elfen) yn Gadlys, Bagillt, gogledd-ddwyrain Cymru.
- 1717 Datblygiad pwysig yn y broses o weithio tun.
- 1750 Erbyn hyn roedd 50% o gopr gwledydd Prydain yn dod o ardal Abertawe.
- 1757 Gwaith haearn cyntaf y Cymoedd.
- 1831 Trethi llechi'n cael ei ddiddymu gan y llywodraeth; hyn yn cael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.
- 1834 Diddymu treth ar y glo.
- 1855 Y tren cyntaf yn cyrraedd o'r Rhondda i Ddociau Caerdydd.
- 1859 Mwyngloddio efydd ar ei anterth.
- 1861 Dull newydd o greu dur drwy "open hearth" yn cael ei ffurfio gan William Seamens.
- 1862 Mwyngloddio plwm yn ei anterth.
- 1869 Mwyngloddio arian yn ei anterth.
- 1883 Y diwydiant zinc yn ei anterth.
- 1885 Gwaith dur Brymbo yn agor.
- 1896 Streic Mawr y Penrhyn.
- 1898 Y diwydiant llechi yn ei anterth.
- 1902 Y gwaith trin nicel mwya'n y byd yn agor yng Nghlydach gan Ludwig Mond.
- 1904 Y diwydiant aur ar ei anterth.
- 1908 Ffatri Almaenig i greu silc artiffisial yn agor yn Greenfield, Sir Fflint.
- 1913 Y diwydiant glo yn ei anterth.
- 1921 Purfa olew Llandarcy yn agor. Fe'i dewisiwyd y lleoliad hwn oherwydd ei agosatrwydd at Borthladd Abertawe.
- 1932 Mwy nag erioed o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.
- 1933 Cynllun Marchnata Llaeth yn cael ei lansio; hyn yn gwarantu pris teg i'r ffermwr.
- 1936 Y stad ddiwydiannol cyntaf yn agor: yn Nhrefforest.
- 1938 Gwaith dur Glyn Ebwy yn agor; y cyntaf o'i bath i gynnig cynhyrchu "un llinell".
- 1939 Ffatri awyrennau'n agor ym Mrychdyn, Sir Fflint. Cwmni De Havilland.
- 1948 Ffatri Hoover yn agor ym Merthyr Tydfil.
- 1955 Undeb Ffermwyr Cymru'n cael ei sefydlu.
- 1960 Purfa olew cyntaf Aberdaugleddau'n agor gan gwmni Esso.
- 1962 Agor drysau Gwaith Dur Llanwern.
- 1964 Y glo olaf yn cael ei allforio o Fae Caerdydd.
- 1967 Dros 20,000 o dai'n cael eu codi: record.
- 1968 Atomfa Trawsfynydd yn dechrau gweithio.
- 1971 Gwaith Rio Tino Zinc yn cael ei ddatblygu ymhellach.
- 1972 Atomfa Wylfa yn dechrau ar ei waith o greu trydan.
- 1973 Japan yn buddsoddi am y tro cyntaf mewn gwaith gwneud teledai Sony, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
- 1973 TUC Cymru'n cael ei sefydlu.
- 1980 Gwaith dur Shotton yn cau.