Economi Affganistan
Mae economi Affganistan yn un o'r tlotaf yn y byd heddiw. Mae'r mwyafrif o'r bobl yn Affganistan yn gweithio ar y tir. Yn y dyffrynoedd a chymoedd mae rhwydweithiau dyfrhau yn galluogi amaethyddiaeth a thyfu coed ffrwythau i ffynu. Yn y mynyddoedd a'r gwastadeddau uchel bugeilio a chodi gwartheg a geifr yw asgwrn cefn yr economi leol. Mae tyfu cnydau opiwm yn bwysig yn yr ardaloedd gwledig ers canrifoedd ac mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan. Mae nwyddau naturiol y wlad yn cynnwys glo, petroliwm a nwy naturiol a mwyngloddir lapis lazuli yn y gogledd, yn arbennig yn y Hindu Kush.
Enghraifft o'r canlynol | economi cenedlaethol |
---|---|
Math | economi Asia |
Lleoliad | Affganistan |
Gwladwriaeth | Affganistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r rhyfela parhaol dros y degawdau diwethaf wedi dinistrio dros 65% o ffatrïoedd a safleoedd diwydiannol eraill y wlad ac mae'r economi heddiw mewn cyflwr bregus iawn ac yn ddibynnol ar gymorth ariannol tramor.