Edirne
Dinas yn Thrace, yng ngorllewin Twrci yw Edirne. Saif yn agos i'r ffîn rhwng Twrci a Gwlad Groeg a Bwlgaria ar gyfandir Ewrop. Edirne yw prifddinas Talaith Edirne. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 128,400.
![]() | |
Math |
dinas, dinas fawr, bwrdeistref, district of Turkey ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
180,327 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC+2, UTC+03:00, EET ![]() |
Gefeilldref/i |
Yambol, Haskovo, Prizren, Alexandroupoli, Kars ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Edirne ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
42 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
41.6781°N 26.5594°E ![]() |
Cod post |
22 000 ![]() |
![]() | |
Mosg Selimiye yn Edirne
HanesGolygu
Hen enw'r ddinas oedd Adrianople neu Hadrianopolis, ar ôl yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian; defnyddir yr enw o hyd gan y Groegiaid. Saif y ddinas mewn lleoliad strategol pwysig, ar ffordd Rufeinig y Via Egnatia, a bu nifer o frwydrau yma. Ym Mrwydr Adrianople yn 313, gorchfygwyd Maximinus Daia gan Licinius; yna ym mrwydr 324, gorchfygwyd Licinius gan Cystennin Fawr. Yr enwocaf o'r brwydrau yma oedd Brwydr Adrianople (378), pan orchfygwyd yr ymerawdwr Valens gan y Gothiaid.
AdeiladauGolygu
- Mosg Selimiye, a godwyd yn yr 16g yn ôl cynllun gan y pensaer Sinan