Agor y brif ddewislen

Prizren (Albaneg: Prizreni, Serbeg: Призрен, IPA Albaneg: prîzrɛn) yw ail ddinas fwyaf Cosofo ar ôl Prishtina, a hi oedd, ar un adeg, y prif dref a'r dref weinyddol i'r wlad. Lleolir hi yn sir Prizren. Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd gan ddinas Prizren 85,119 o breswylwyr tra bod gan y sir 177,781.[1].

Prizren
Prizren Collage.jpg
Prishtinë - Priştine.png
Lleoliad Prizren o fewn Cosofo
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Uchder 450 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 184,586 (Cyfrifiad 2011)
Gwybodaeth Bellach
Gwefan Gwefan Saesneg

Mae Prizren yn ddinas hanesyddol ar lan yr afon Bistrica ar lethrau mynyddoedd y Šar (Albaneg: Malet e Sharrit) yn neheudir Cosofo. Mae gan sir Prizren ffin ag Albania a Gweriniaeth Macedonia a cheir croesfan yno.

Gan deithio ar hyd y ffyrdd, mae Prezren yn 85 km i'r de o'r brifddinas, Prishtina, 175 km i'r gogledd ddwyrain o brifddinas Albania, Tirana a 99 km i'r gogledd orllewin o Skopje, prifddinas Macedonia.

Cynnwys

EtymolegGolygu

Credir i'r enw ddod o'r Serbeg Призрѣнь (Prizren), o'r geiriau при-зрѣти (pri-zreti), sy'n golygu caer a ellir ei weld o bellter[2] (cymharer â'r Tsieceg Přízřenice neu bryncyn Ozren). Gall hefyd ddeillio o Petrizen a sonir amdanno gan .[3]. .

HanesGolygu

Cyfeirir at dref Rufeinig[4] Theranda [3] yn Nhaearyddiaeth Ptolemy yn yr 2g AD.[5]

Yn y 5g, fe grybwyllir iddo gael ei adfer yn Dardania gydag enw Petrizên gan Procopius o Caesarea yn De aedificiis (Llyfr IV, Pennod 4).[6]. Weithiau fe grybwyllir hyd yn oed mewn perthynas â'r Justiniana Prima. Weithiau fe grybwyllir hyd yn oed mewn perthynas â'r Justiniana Prima.

Daeth yr ardal o dan reolaeth pennaethiaid Bwlgaraidd o'r blynyddoedd 850au OC. Wedi hynny bu i'r ardal ddod o dan realaeth Byzantiwm, brehinoedd Bwlgaria a brenhinoedd Serbeg.

Credai Konstantin Jireček o ddarllen gohebiaeth yr esgob Demetrios Chomatenos o Ohrid (1216–36), mai Prizren oedd pau mwyaf gogleddol yr Albaniaid cyn i'r llwythau Slaf gyrraedd.[7]

Ar ôl nifer o flynyddoedd o ymosod ar 21 Mehefin 1455, ildiodd Prizren i'r fyddin Otomanaidd[8]. Prizren oedd prifddinas Sanjak (sir) Prizren, ac o dan sefydliad gweinyddol newydd yr Ymerodraeth Otomanaidd daeth yn brifddinas y Vilayet (talaith) gan gynnwys dinas Tetovo (sydd bellach yng ngweriniaeth Macedonia). Yn ddiweddarach daeth Prizren yn rhan o dalaith Otomanaidd Rumelia. Roedd yn ddinas fasnach ffyniannus, gan fanteisio ar ei safle ar y llwybrau masnach gogledd-de a dwyrain-gorllewin ar draws yr Ymerodraeth. Daeth Prizren i fod yn un o ddinasoedd mwyaf Talaith Cosofo (vilayet) yr Otomanaidd. Prizren oedd canolfan ddiwylliannol a deallusol Cosofo Otomanaidd. Roedd ei phoblogaeth Fwslimaidd yn bennaf, a gyfansoddodd dros 70% o'i phoblogaeth ym 1857. Daeth y ddinas y brif ganolfan ddiwylliannol Albaniaidd ac yn ganolbwynt gwleidyddol a diwylliannol i Albaniaid Cosofo. Roedd yn rhan bwysig o Vilayet Cosofo rhwng 1877 a 1912. Ym 1871, agorwyd canolfan addysgol Serbeg yn Prizren, a thrafodwyd y posibilrwydd o uno'r diriogaethau â Thywysogaeth Serbia (a oedd wedi ennill annibyniaeth o'r Ymerodraeth Otomoanaidd yn ers canol 19g.

Cynghriar PrizrenGolygu

Yn ystod diwedd y 19g daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cenedlaetholdeb Albaniaidd. Un o sefydliadau pwysicaf Albania gyfoes o Cynghrair Prizren a sefydlwyd ar 5 Ionawr 1877 yn hen dref Prizren.

Ffurfiwyd y Gynghrair er mwyn ceisio creu undeb cenedlaethol i'r Albaniaid ac ennill rhyddid iddynt o fewn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ar gyfarfod cyntaf y gynghrair, dywedodd y memorandwm penderfyniad (kararname) ddim am ddiwygiadau, ysgolion, ymreolaeth neu undeb y boblogaeth Albanaidd o fewn un vilayet.[9]. Nid oedd yn apêl am annibyniaeth Albanaidd, neu hyd yn oed ymreolaeth yn yr Ymerodraeth Otomanaidd ond, fel y cynigiwyd gan Pashko Vasa, dim ond undeb o'r holl diriogaeth a honnir o fewn un vilayet. [23] Roedd y cyfranogwyr am ddychwelyd i'r sefyllfa bresennol cyn dechrau Rhyfel Rwso-Turcaidd o 1877-1878. Y prif nôd oedd amddiffyn rhag peryglon uniongyrchol. Yn fuan roedd y sefyllfa honno wedi newid yn radical ac yn arwain at ofynion annibyniaeth a rhyfel agored yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd fel y'i ffurfiwyd gan Abdyl Frashëri.[10].

Ugeinfed GanrifGolygu

 
Hen ddinas Prizren

Cipiwyd y ddinas gan y Serbiaid yn Hydref 1912 fel rhan o'r Rhyfel Balcan Gyntaf. Laddwyd 400 o drigolion Albanaidd y ddinas o fewn ychydig ddiwrnodau. Galwyd y ddinas yn "teyrnas marwolaeth" gan y trigolion.[11]. Ymysg un o'r ychydig newyddiadurwyr i adrodd mewn person o'r ddinas oedd Leon Trotsky, a ddaeth, maes o law, yn un o arweinyddion y Chwyldro Rwsia. Mewn adroddiad yn 1912 ar Fyddin Serbia a'r parafilwyr Chetnik yn Prizren, meddai Trotsky, "Yn ei mysg roedd deallusion, dynion â syniadau, selotiaid cenedlaetholaidd, ond roedd y rhain yn unigolion ynysig. Roedd y gweddill yn 'thugs', lladron a ymunodd â'r fyddin er mwyn dwyn ... Mae'r Serbiaid o diriogaeth Hen Serbia, yn eu hymgais genedlaethol i gywiro data yn yr ystadegau ethnograffaidd nad sydd yn ffafriol o'u plaid, yn ymgymryd, yn ddigon syml, yn nhachwedd systemataidd y boblogaeth Fwslim.".[12]

Wedi'r Rhyfel Balcan Gyntaf yn 1912, cynhaliwyd Cynhadledd y Llysgenhadaeth yn Llundain a welodd sefydlu gwladwriaeth rydd Albania ond a roddwyd Cosofo i Serbia, er bod y boblogaeth yn fwyafrif Albanaidd.[13]

Gyda toriad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 cipiwyd y ddinas gan luoedd Bwlgaria yn 29 Tachwedd 1915. Ond byrhoedlog bu rheolaidd Bwlgaraidd gan i'r ddinas, gyda gweddill Cosofo, ddod yn rhan o wladwriaeth newydd Brehiniaeth Iwgoslafia ar ddiwedd 1918. Fel rhan o ymdrech i danseilio hunaniaeth Albanaidd talaith Cosofo, cynhwyswyd Prizren yn rhan o Banovina Vardar yn ad-drefnu lleol 1929 Iwgoslafia.

Yn yr Ail Ryfel Byd, ymosododd yr Almaen Natsïaidd a'r Ffasgwyr Eithafol ar Deyrnas Iwgoslafia ar 6 Ebrill 1941. Erbyn 9 Ebrill, roedd yr Almaenwyr a oedd wedi ymosod ar Iwgoslafia o'r Dwyrain gyda Bwlgaria cyfagos, ar gyrion Prizren ac erbyn 14 Ebrill roedd Prizren wedi disgyn i'r Eidalwyr a oedd wedi ymosod ar Iwgoslafia o Albania. Fodd bynnag, roedd gwrthwynebiad nodedig yn Prizen cyn i Iwgoslafia ildio'n ddiamod ar 19 Ebrill 1941. Roedd Prizren ynghyd â'r rhan fwyaf o Cosofo ynghlwm wrth gyflwr pypedau Eidaleg Albania. Yn fuan wedi'r meddiant Eidalaidd, sefydlodd y Blaid Ffasgaidd Albanaidd bataliwn blackshirt yn Prizren, ond cafodd cynlluniau i sefydlu dau bataliwn mwy eu gollwng oherwydd diffyg cefnogaeth gyhoeddus. Yn 1943, helpodd Bedri Pejani o'r Wehrmacht Almaenig i greu Ail Gynghrair Prizren.[14]

Gwthiwyd y Ffasgwyr Eidalaidd a Natsiaid allan o Cosofo yn 1944 a daeth y wlad unwaith eto yn rhan o Iwgoslafia, ond y tro yma fel rhan o Iwgoslafia Gomiwynyddol Ffederal.

DemograffegGolygu

Nodyn:Hanes Poblogaeth Prizren


Darlun ethnig o ddinas sirol Prizren:

Demographics
Year Albaniaid  % Bosniaks  % Serbiaid  % Twrciaid  % Roma  % Eraill  % Cyfanswm
1991 census 132,591 75.58 19,423 11.1 10,950 6.24 7,227 4.1 3,96 3 2.3 1,259 0.7 175,413
January 2000 181,531 76.9 37,500 15.9 258 0.1 12,250 5.2 4,500 1.9 n/a n/a 236,000
December 2002 180,176 81.6 21,266 9.6 221 0.09 14,050 6.4 5,148 2.3 n/a n/a 221,374
2011 145,718 81.97 16,896 9.5 237 0.13 9,091 5.1 2,899 1.63 2940 1.65 177,781
Source: For 1991: Census data, Federal Office of Statistics in Serbia (figures to be considered as unreliable). 1998 and 2000 minority figures from UNHCR in Prizren, January 2000. 2000 Kosovo Albanian figure is an unofficial OSCE estimate January–March 2000. 2001 figures come from German KFOR, UNHCR and IOM last update March 2, 2001. May 2002 statistics are joint UN, UNHCR, KFOR, and OSCE approximations. December 2002 figures are based on survey by the Local Community Office. All figures are estimates.
Ref: OSCE .pdf

CyfeiriadauGolygu

  1. "Preliminary Results of the Kosovo 2011 population and housing census". The statistical Office of Kosovo. http://esk.rks-gov.net/rekos2011/?cid=2,40,208. Adalwyd 17 April 2012.
  2. Nodyn:Ill: Градови у хришћанској и муслиманској епици, Belgrade, 2004, ISBN 86-7179-039-8.
  3. Procopius. "Buildings". LacusCurtius. The Buildings, English translation (Dewing, 1935) at LacusCurtius.
  4. THERANDA (Prizren) Yugoslavia, The Princeton Encyclopedia of Classical Sites, A Roman town about 76 km (47.22 mi) SW of Priština on the Bistrica river. It lay on the direct route from Lissos in Macedonia to Naissus in Moesia Superior. The town continued to exist during the 4th to 6th century, but was of far greater significance during the mediaeval period and was even capital of Serbia for a short time during the 14th century.
  5. THERANDA (Prizren) Yugoslavia,The Princeton Encyclopedia of Classical Sites, "A Roman town ca. 76 km SW of Priština on the Bistrica river in the region of Kosovo. It lay on the direct route from Lissos in Macedonia to Naissus in Moesia Superior. The town continued to exist during the 4th to 6th centuries, but was of far greater significance during the medieval period and was even capital of Serbia for a short time during the 14th century."
  6. "LacusCurtius • The Buildings of Procopius — Book 4, Part 2". http://penelope.uchicago.edu/Thayer/E/Roman/Texts/Procopius/Buildings/4B*.html.
  7. Ducellier, Alain (1999-10-21). The New Cambridge Medieval History: Volume 5, c.1198-c.1300. Cambridge University Press. p. 780. ISBN 978-0-521-36289-4. Adalwyd 21 November 2012. The question of Illyrian continuity was already addressed by Jireček, 1916 p 69–70, and in the same collection, p 127–8, admitting that the territory occupied by the Albanians extended, prior to Slav expansion, from Scutari to Valona and from Prizren to Ohrid, utilizing in particular the correspondence of Demetrios Chomatenos; Circovic (1988) p347; cf Mirdita (1981)  Check date values in: |access-date= (help)
  8. Malcolm, N (1999). Kosovo: A Short History. p. 91. ISBN 978-0-06-097775-7. 
  9. Gawrych 2006, tt. 46–47. "a 16 point "decision memorandum" (kararname) said nothing about reforms, schools, autonomy, nothing even about the unification of the Albanian lands in one vilayet"
  10. Kopeček, Michal (2006), Discourses of collective identity in Central and Southeast Europe (1770–1945), 2, Budapest, Hungary: Central European University Press, ISBN 963-7326-60-X, https://books.google.com/books?id=TpPWvubBL0MC&printsec=frontcover&dq=Discourses+of+collective+identity+in+Central+and+Southeast+Europe#v=onepage&q&f=false, adalwyd January 18, 2011, "Soon after this first meeting,....mainly under the influence of ... Abdyl Frashëri ... new agenda included ... the fonding of an autonomous Albanian Vilayet"
  11. Freundlich, Leo (1913). "Albania's Golgotha". Archifwyd o y gwreiddiol ar 31 May 2012. https://web.archive.org/web/20120531131757/http://www.albanianhistory.net/texts20_1/AH1913_1.html. Adalwyd 29 June 2014.
  12. Noel Malcolm (1998). Kosovo: A Short History. London: papermac. p. 253. ISBN 9780330412247. 
  13. "Prizren history". Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-11-18. https://web.archive.org/web/20111118104903/http://www.inyourpocket.com/kosovo/prizren/Prizren-history_71742f.
  14. "Die aktuelle deutsche Unterstützung für die UCK". Trend.infopartisan.net. http://www.trend.infopartisan.net/trd0501/t400501.html. Adalwyd 2012-03-12.