Siôn Jobbins
Awdur, gwleidydd ac academydd ydy Siôn Jobbins (ganwyd 16 Chwefror 1968). Mae'n gydolygydd y cylchgrawn Cambrian Magazine sy'n gylchgrawn cenedlaethol, annibynnol Saesneg. Ar hyn o bryd mae'n Swyddog Datblygu'r Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.[1]
Siôn Jobbins | |
---|---|
![]() Siôn Jobbins yn annerch 'Ras yr iaith', 2014 | |
Ganwyd | Siôn Tomos Jobbins ![]() 16 Chwefror 1968 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | darlithydd, ysgrifennwr, ymgyrchydd ![]() |
Cyflogwr |
Ei weledigaeth ef oedd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a sefydlwyd ganddo yn 2013; sefydlwyd gorymdeithiau tebyg mewn sawl tref yn dilyn hynny, gan gynnwys Pwllheli, Caerfyrddin a Chaergybi.
AwdurGolygu
Ymhlith y llyfrau mae wedi'u hysgrifennu mae The Welsh National Anthem a'r gyfres The Phenomenon of Welshness: 'How Many Aircraft Carriers Would an Independent Wales Need?' ac 'Is Wales Too Poor to Be Independent?'[2][3]
Yn ei lyfrau gwleidyddol mae Siôn Jobbins weithiau'n troedio'r ffin denau rhwng pryfocio a chythruddo. Yn The Phenomenon of Welshness mae'n sôn am Frad y Llyfrau Gleision, dyfeisio Dydd Santes Dwynwen, radio answyddogol Cymraeg y 1960au, yr angen am brotestiadau iaith, Cymreictod cyfnewidiol Caerdydd ac Abertawe, a'r posibilrwydd o gael teulu brenhinol Cymreig newydd.
Mae'n olygydd toreithiog ar yr Wicipedia Cymraeg, a'i syniad ef, yn Ebrill 2018, oedd #wici365, lle mae awduron yn ceisio creu un erthygl y dydd.
OrielGolygu
Ccadeirydd YesCymru yn annerch oddeutu 2,500 o dorf ar orymdaith Yes Cymru a AUOB; Mai 2019.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 4 Rhagfyr 2014
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 4 Rhagfyr 2014
- ↑ Gwefan Amazon; adalwyd 4 Rhagfyr 2014