Cymdeithas Dafydd ap Gwilym

Oxford University Welsh Society

Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen.

Cymdeithas Gymraeg yw hi, yn hytrach na Saesneg fel ei chwaer-gymdeithas, Cymdeithas y Mabinogi yng Nghaergrawnt.

HanesGolygu

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, sy’n ei gwneud y gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb. Adwaenir ar lafer i’w haelodau fel “Y Dafydd”. Yn y 1990au ymddangosodd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr, sy'n cynnwys erthyglau a gwaith creadigol gan yr aelodau yn bennaf, ond hefyd gan rai o'r siaradwyr gwadd.

Ym mysg yr aelodau sylfaenol oedd O. M. Edwards a John Morris-Jones. Derbyniwyd merched yn aelodau yn ystod y flwyddyn academaidd 1966-1967. Cedwir y llyfrau cofnodion yn Llyfrgell Bodley.

TraddodiadauGolygu

Enwyd y Gymdeithas ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, a bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno.

‘Roedd gan y Gymdeithas rhai defodau ffurfiol a swyddi gyda theitlau mawreddog, er mae y bwriadwyd y rhain i fod yn eironig. Erbyn heddiw cadwyd y teitl Caplan ar gyfer y cadeirydd, a chadwyd swydd mawreddog yr Archarogldarthydd.

Bu’n draddodiad ar un adeg i aelodau a chyn-aelodau’r gymdeithas gyfarfod yn flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

 
CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH, 1939

Rhes Flaen (chwith i'r dde) G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones
Ail Res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith
Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies.

LlywyddionGolygu

Dyma rai o gyn-Gymrodorion y Brifysgol sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n gwasanaethau heddiw fel Llywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas:

Rhai Cyn-AelodauGolygu

CyfeiriadauGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Cofio’r Dafydd: Cymdeithas Dafydd ap Gwilym 1886-1986, gol. D. Ellis Evans ac R. Brinley Jones (1987)

Dolenni allanolGolygu