Edward Thomas John

gwleidydd ac aelod seneddol Cymreig ac ymgyrchydd dros Senedd i Gymru, ymreolaeth, datganoli ar ddechrau'r 20g. (1857-1931)

Roedd Edward Thomas John (14 Mawrth 1857 – 16 Chwefror 1931),[1] a adnabyddir hefyd fel E.T. John yn wleidydd radicalaidd o'r Blaid Ryddfrydol Gymreig a ymunodd â'r Blaid Lafur yn ddiweddarach. Roedd yn ymgyrchydd dygn dros Senedd i Gymru cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny gan cynnig mesur ar ymreolaeth yn 1914 yn y misoedd cyn y Rhyfel. Roedd hefyd yn ddiwydiannwr llwyddiannus.

Edward Thomas John
Ganwyd14 Mawrth 1857, 1857 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Bu farw16 Chwefror 1931, 1931 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganed ef ym Mhontypridd ar 14 Mawrth 1857, yn fab i John John a Margaret Morgan. Priododd yn 1881 â Margaret Rees, Caerwiga Pendeulwyn, Bro Morgannwg. Bu iddynt dri mab a dwy ferch.[2]

Bwriodd ei gyfnod diwydiannol yn Middlesbrough, yn aelod o gwmni Bolckow, Vaughan, a Williams, gwneuthurwyr haearn - menter a sefydlwyd gan John Vaughan (1799? - 1868), Cymro a fu'n gweithio yn ei ieuenctid fel 'roll-turner' yng ngwaith haearn Clydach ym mhlwy Llanelli yn sir Frycheiniog (ar y pryd, Sir Fynwy bellach), ac a atynodd lawer iawn o Gymry i Middlesbrough ar un cyfnod. Y mae delw ohono yn Middlesbrough.

Prynodd John, a gŵr o'r enw Torbock, y 'Dinsdale Iron-works' yn ddiweddarach; wedyn, ymunodd y rhain â gwaith Bolckow Vaughan yn Linthorpe, i ffurfio'r Linthorpe-Dinsdale Smelting Co..[1]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Roedd yn Genedlaetholwr Cymreig ac yn Heddychol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Sir Ddinbych o 1910-18. Ei genedlaetholdeb Cymreig oedd yn flaenllaw yn ei broffil cynnar yn y senedd ac ysgrifennodd nifer o gyhoeddiadau; Wales, its notable Sons and Daughters; St. David's Day Addresses Delivered Before the Cleveland and Durham Welsh National Society, 1905–1910 [1911], Home Rule for Wales; Addresses to "young Wales" [1912], Cymru a'r Gymraeg [1916]; a Wales, its Politics and Economics. Gwnaeth gyfraniadau i gylchgronnau a chyfnodolion Cymreig; y Beirniad, Y Genedl, Wales, a'r Welsh Outlook.[2]

Ym 1914 daeth ei heddychiaeth i'r amlwg wrth iddo wrthwynebu mynediad Prydain i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ynghyd â nifer o ASau Rhyddfrydol a Llafur heddychlon eraill ymunodd â grŵp pwyso yr Union of Democratic Control ym 1914. Diflannodd ei sedd yn Nwyrain Sir Ddinbych ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918 gan uno i sedd newydd yn Sir Ddinbych. Penderfynodd ymladd y sedd newydd ond o dan liwiau plaid newydd. Roedd wedi ymuno â'r Blaid Lafur a chael eu cefnogaeth ond ni chafodd gymeradwyaeth gan y Llywodraeth Glymblaid a chafodd ei drechu gan Ryddfrydwr a wnaeth;

Etholiad cyffredinol 1918

Nifer y pleidleiswyr 30,448

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol David Sanders Davies 14,773 83.3
Llafur Edward Thomas John 2,958 16.7
Mwyafrif 11,815 66.6
Y nifer a bleidleisiodd 58.2

Safodd eto fel ymgeisydd Llafur i'r senedd yn Etholiad Cyffredinol 1922 ond y tro hwn ym Mrycheiniog a Maesyfed;

Etholiad cyffredinol 1922

Nifer y pleidleiswyr 38,815

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydwr y Glymblaid William Albert Jenkins 20,405 67.4
Llafur Edward Thomas John 9,850 32.6
Mwyafrif 10,555 34.8
Y nifer a bleidleisiodd 77.9
Rhyddfrydwr y Glymblaid yn cadw Gogwydd

Ni safodd yn Etholiad Cyffredinol 1923 pan ddychwelwyd Jenkins yn ddiwrthwynebiad, ond safodd yn Etholiad Cyffredinol 1924 gan orffen yn drydydd;

Etholiad cyffredinol 1924

Nifer y pleidleiswyr 39,943

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Unoliaethwr Walter D'Arcy Hall 12,834 38.4
Rhyddfrydol William Albert Jenkins 10,374 31.1
Llafur Edward Thomas John 10,167 30.5
Mwyafrif 2,460 7.3
Y nifer a bleidleisiodd
Unoliaethwr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Ni safodd i'r senedd eto.[3] Bu'n Llywydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig, 1916–26, Llywydd y Gyngres Geltaidd, 1918–27 a Llywydd y Gymdeithas Heddwch, 1924–27. Yr oedd yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, Cymdeithas Hanes Gorllewin Cymru a Chymdeithas Hynafiaethol Môn. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Fwrdeistref Middlesbrough.[2]

Senedd i Gymru golygu

E.T. John oedd prif ladmerydd yr ymgyrch dros Senedd i Gymru ar ddechrau'r 20g a chyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn 1914, yn y misoedd cyn cychwyn y Rhyfel Mawr, bu iddo gynnig Mesur dros Senedd i Gymru ger bron Tŷ'r Cyffredin. Cafodd y mesur ddarlleniad ond ni basiwyd y Ddeddf. Yn dilyn y Rhyfel Mawr cyhoeddodd ei waith ymchwil a lladmeru dros ennill Senedd i Gymru ar ffurf erthglau yn y Welsh Outlook rhwng Ionawr 1918 a Mawrth 1919 gan gyfuno rheini wedyn yn un llyfr, a gyhoeddu gan wasg, Wales: its politics and economics : with the text of the government of Wales Bill (1914).[4]

Rhai cyhoeddiadau ar Ymreolaeth i Gymru golygu

Roedd ET John yn awdur cyson dros senedd i Gymru gan gwneud gwaith dygn yn tyrchu drwy ffeithiau economaidd a diwydiannol, yn aml lle nad oedd ffeithiau penodol ar gyfer Cymru fel gwlad neu diriogaeth ystadegol. Cyhoeddodd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma restr o rai o'i gyhoeddiadau fwyaf nodedig:[5]

  • John, E. T. National self-government: how Wales stands to gain by it [1910?]
  • John, E. T. Ymreolaeth gyfunol: safle a hawliau Cymru: manteision Senedd Gymreig [1910?]
  • John, E. T. Wales and self-government [1910?]
  • John, E. T. Senedd Gymreig: ei neges a'i gwaith 1911.
  • John, E. T. Cymru a'r Gymraeg [1916]
  • John, E. T. Ymreolaeth gyfunol: safle a hawliau Cymru: manteision Senedd Gymreig [1919]
  • John, E. T. Wales: its politics and economics: with the text of the Government of Wales Bill 1914 [1919]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "John, Edward Thomas". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 16 Ionawr 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 Who Was Who
  3. British parliamentary election results 1918–1949, Craig, F. W. S.
  4. "Wales: its politics and economics : with the text of the government of Wales Bill (1914) / by Edw. T. John". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 16 Ionawr 2024.
  5. "Casgliadau Arbennig ac Archifau Cefndir hanesyddol (cyn-1970)". Gwefan Prifysgol Caerdydd Datganoli. Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.

Dolenni allanol golygu