Edward Lewis Pryse

Roedd y Cyrnol Edward Lewis Pryse (27 Mehefin 1817) - (29 Mai 1888) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberteifi rhwng 1857 a 1868.[1]

Edward Lewis Pryse
Ganwyd27 Mehefin 1817 Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1888 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
'Meibion Pryse Pryse' gan Hugh Hughes; c.1826. Llyfrgell Genedlaethol Cymru John, Edward a Pryse.

Ganwyd Pryse yn Woodstock, swydd Rhydychen yn fab i Pryse Pryse a’i ail wraig, Jane, merch Peter Cavallier o Whitby, roedd yn frawd i Pryse Loveden.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.

Ni fu’n briod

Gyrfa golygu

Ymunodd a’r fyddin ym 1837 gyda rheng Corned yng Ngwarchodlu’r Dragŵn. Fe’i dyrchafwyd yn Is-gapten ym 1838 a Chapten ym 1844[2]. Ymadawodd a’r fyddin llawn amser ym 1846 ond parhaodd ei gysylltiadau milwrol fel cyrnol ar Filisia Ceredigion o 1857 hyd ei farwolaeth[3].

Gyrfa wleidyddol golygu

Cafodd Pryse ei ethol yn ddiwrthwynebiad yn enw'r Blaid Ryddfrydol i gynrychioli etholaeth Aberteifi yn y senedd ym 1857 gan gael ei ail ethol yn etholiadau 1859 a 1865 cyn roi’r gorau i’r sedd ar gyfer etholiad cyffredinol 1868.

Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Ceredigion o 1857 hyd ei farwolaeth.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref y Peithyll, Capel Dewi yn 71 mlwydd oed [4]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Llanbadarn fawr [5].

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 29 Awst 2017
  2. The New Army List A G Hart adalwyd 29 Awst 2017
  3. Nicholas, Thomas 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales adalwyd 29 Awst 2017
  4. "DEATH OF THE LORD LIEUTENANT OF CARDIGANSHIRE - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-05-30. Cyrchwyd 2017-08-29.
  5. "THELATECOLONELPRYSE - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1890-02-22. Cyrchwyd 2017-08-29.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Lloyd Davies
Aelod Seneddol Aberteifi
1857-1868
Olynydd:
Thomas Davies Lloyd