Thomas Davies Lloyd
Roedd Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig Cyntaf (24 Mai[1] 1820 – 21 Gorffennaf 1877) yn filwr, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Gymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistref a Sir Aberteifi.[2]
Thomas Davies Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1820 |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1877 Bronwydd |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, milwr |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd personol
golyguRoedd Lloyd yn fab i Thomas Lloyd, Bronwydd, Uchel Siryf Ceredigion ym 1814, ac Anne merch John Thomas, Llwydcoed, Caerfyrddin.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen.
Ym 1844 priododd Henrietta Mary, merch George Reid, Friendship Estates, Jamaica, Llywodraethwr Madras; bu iddynt un mab.
Gyrfa
golyguYm 1840 ymunodd a chatrawd y Light Dragoon gan wasanaethu yng Nghanada. Ym 1845, ar farwolaeth ei dad, dychwelodd i Gymru i reoli ei ystâd.[3]
Gyrfa gyhoeddus
golyguAr farwolaeth ei dad daeth Lloyd yn 24ain Barwn Mers Cemais, a oedd yn caniatáu iddo gynnal Cwrt Lît a Chwrt Barwn yn ei Fers, er heb lawer o awdurdod erbyn iddo etifeddu'r teitl. Fel Barwn Cemais roedd Lloyd yn gyfrifol am guro'r ffiniau a phenodi Maer Casnewydd-bach. Gwariodd ffortiwn ar adnewyddu Castell Casnewydd-bach fel cader i'w barwniaeth ac ar geisio cael ei godi'n farwn go iawn gyda sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond heb lwyddiant; ond fe'i codwyd yn farwnig ym 1863.[4]
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Aberteifi 1850-1851.[5]
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Sirol Aberteifi ym 1865 gan wasanaethu hyd at 1868 pan benderfynodd sefyll ar gyfer etholaeth Bwrdeistref Aberteifi. Ym 1874 ymneilltuodd o'r senedd gan ildio ei le i David Davies, Llandinam
Marwolaeth
golyguBu farw ym Mhlas Bronwydd, ei gartref, a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Llangynllo. Olynwyd ef yn y Farwnigaeth ac Arglwyddiaeth Cemaes gan ei unig fab, Marteine O M Lloyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae'r ffynonellau yn gwahaniaethu ar union ddyddiad ei eni; bu tua 19-24 Mai. Mae'r Cambrian News yn honni bod plât ar ei arch yn dweud 24 Mai "FUNERAL OF SIR THOMAS DAVIES LLOYD BART BRONWYDD - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1877-08-03. Cyrchwyd 2015-12-19.
- ↑ Y Bywgraffiadur ar lein LLOYD , Syr THOMAS DAVIES (1820 - 1877) [1] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
- ↑ Cylchgronau Cymru ar-lein National Library of Wales journal - Cyf. 23, rh. 4 Gaeaf 1984 Bronwydd and Sir Thomas Lloyd [2] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
- ↑ Leslie Baker-Jones (2005) The Wolf and the Boar : The Lloyds of Bronwydd, Cardiganshire - Lords Marcher of Cemais ISBN10 0955091608
- ↑ GENUKI Members of Parliament for Cardiganshire, and Cardigan [3] adalwyd 19 Rhagfyr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Thomas Rowland Powell |
Aelod Seneddol Ceredigion 1865 – 1868 |
Olynydd: Evan Mathew Richards |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Lewis Pryse |
Aelod Seneddol Aberteifi 1868 – 1874 |
Olynydd: David Davies |