Roedd Pryse Loveden (ganwyd Pryse Pryse; 1 Mehefin 18151 Chwefror 1855) [1] yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Aberteifi rhwng 1849 a’i farwolaeth ym 1855.[2]

Pryse Loveden
Pryse Loveden (1815-1855) (copy of earlier painting) - Charles Goldsborough Anderson (1865-1936) - NLW NLW gcf01562.jpg
Ganwyd1 Mehefin 1815 Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1855 Edit this on Wikidata
Gogerddan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadPryse Pryse Edit this on Wikidata
PriodMargaretta Jane Rice Edit this on Wikidata
'Meibion Pryse Pryse' gan Hugh Hughes; c.1826. Llyfrgell Genedlaethol Cymru John, Edward a Pryse.

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Loveden yn Woodstock, Swydd Rydychen, yn fab hynaf i Pryse Pryse, ei ragflaenydd fel AS Aberteifi, a Jane, ferch Peter Cavallier o Cleveland, Swydd Efrog; ei ail wraig. Gwasanaethodd ail fab Pryse Pryse (brawd Pryse Loveden), Edward Lewis Pryse fel AS Aberteifi o 1857 i 1868.

Roedd Pryse Pryse yr hynaf yn fab i Edward Loveden Loveden a Margaret Pryse, merch Lewis Pryse Gogerddan; etifeddodd ystâd Gogerddan gan ei nain ym 1798 a newidiodd ei gyfenw i Pryse. Ym 1849 etifeddodd Pryse Pryse yr ieuengaf ystadau ei daid tadol, Edward Loveden, yn Berkshire, gan newid ei gyfenw yn ôl i Loveden[3]

Priododd Margaret Jane merch Walter Rice, Llwyn y Brain, Sir Gaerfyrddin ar 14 Medi 1836. Bu iddynt un mab a dwy ferch. Ei fab oedd Syr Pryse Pryse, barwnig cyntaf Gogerddan o’r ail greadigaeth[4].

Arestiwyd Pryse Loveden yn Llundain ym mis Mehefin 1854 am fod yn feddw ac yn siarad â "Westminster Girl" (putain a lleidr)ym Mhiccadilly. Dirwywyd 5s. ond diddymwyd y ddirwy ar ôl iddo roi 10s. yn y 'poor box'. Doedd dim sôn am yr achos ym mhapurau Swydd Aberteifi.[5]

GyrfaGolygu

Roedd yn dirfeddiannwr ar ystadau Buscot a Eaton Hastings, Berkshire, ystâd Gogerddan, Ceredigion a thiroedd yn Woodstock, Swydd Rydychen ac Inglesham, Wiltshire.

Gyrfa WleidyddolGolygu

Safodd Loveden yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Ceredigion a achoswyd gan farwolaeth ei dad ym 1849. Enillodd yr isetholiad gan gadw’r sedd hyd ei farwolaeth ef ym 1855

MarwolaethGolygu

 
Eglwys St Padarn, Llanbadarn Fawr

Bu farw yn Llundain yn 39 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yng nghladdgell y teulu yn eglwys Llanbadarn Fawr.[6]

CyfeiriadauGolygu

  1. Deaths of Note yn y Monmouthshire Merlin 16 Chwefror 1855 adalwyd 23 Awst 2017
  2. "Dod's Parliamentary Companion 1852". archive.org. 1852. Cyrchwyd 23 Awst 2017.
  3. Pryse of Plas Gogerddan an old Ceredigion family adalwyd 23 Awst 2017
  4. Nicholas, Thomas Annals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct familiesAnnals and antiquities of the counties and county families of Wales; containing a record of all ranks of the gentry ... with many ancient pedigrees and memorials of old and extinct families adalwyd 23 Awst 2017
  5. Pembrokeshire Herald and General Advertiser, 30 Mehefin 1854, tud. 2
  6. "CARDIGANSHIRE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1855-02-09. Cyrchwyd 2017-08-23.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Pryse Pryse
Aelod Seneddol Aberteifi
18491855
Olynydd:
John Lloyd Davies