Pryse Pryse
Roedd Pryse Pryse (ganwyd Pryse Loveden) (1774- 4 Ionawr 1849) yn wleidydd Chwig / Rhyddfrydol Gymreig ac yn Aelod Seneddol Aberteifi o 1818 i 1849.
Pryse Pryse | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1774 Buscot |
Bu farw | 4 Ionawr 1849 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Siryf Sir Aberteifi |
Tad | Edward Loveden Loveden |
Priod | Harriet Flower |
Plant | Pryse Loveden |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Pryse ym 1744 a'i bedyddio ar 1 Mehefin 1774 yn Eglwys Buscot, Berkshire yn fab i Edward Loveden Loveden a Margaret Pryse merch Lewis Pryse Gogerddan. Etifeddodd ystâd Gogerddan gan ei nain ym 1798 a newidiodd ei gyfenw i Pryse. Bu Edward Loveden Loveden yn AS etholaethau Abingdon a Shaftesbury.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen.
Ym 1798 priododd Harriet Flower merch William Flower 2il barwn Ashbrook a gweddw'r Anrhydeddus Y Parch John Ellis Agar, ni fu iddynt blant. Llosgwyd Harriet i farwolaeth wrth ddathlu'r flwyddyn newydd yng Ngogerddan 14 Ionawr, 1813.[1] Ym 1815 priododd morwyn ei ddiweddar wraig sef Jane, ferch Peter Cavallier o Cleveland, Swydd Efrog bu iddynt tri mab, bu ei fab hynaf Pryse Loveden yn olynydd iddo fel AS Aberteifi o 1849 i 1855 a bu ei ail fab Edward Lewis Pryse yn AS Aberteifi o 1857 i 1868.[2]
Gyrfa Wleidyddol
golyguCafodd Pryse sawl gynnig i ymgeisio am sedd seneddol; ym 1796 ceisiwyd dwyn perswâd arno i sefyll dros Geredigion ond nid oedd diddordeb ganddo. Ym 1801 cafodd ei dad addewid o sedd poced ar gyfer Pryse trwy nawdd William Pitt ond gwrthodwyd y cynnig. Ar ôl genedigaeth ei fab cyntaf penderfynodd sefyll er mwyn ail adfer hawl teulu Gogerddan i gynrychiolaeth Sir Aberteifi, fel etifeddiaeth i'w mab gan fod Prysiaid wedi bod yn cynrychioli'r Sir ers cyfnod y deddfau uno.[3]
Ar farwolaeth Thomas Johnes ym 1816 dechreuodd canfasio i'w olynu fel aelod Ceredigion gan lwyddo i gael ei enwebu, ond rhoddwyd pwysau arno i sefyll i lawr er budd William Edward Powell Nanteos; fe gytunodd ar yr amod ei fod yn cael ei ddewis ar gyfer sedd y fwrdeistref yn yr etholiad canlynol. Fe'i etholwyd fel AS Aberteifi yn etholiad 1818 a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth ym 1849. Dim ond unwaith bu raid iddo sefyll etholiad a hynny ym 1841 lle bu'n gwrthwynebu ymgeisydd Ceidwadol, John Scandret Harford, yn wreiddiol cyhoeddwyd bod Harford wedi ennill o 226 pleidlais i 163 cyn canfod bod llyfrau pôl Aberystwyth wedi eu colli neu (yn ôl rai) wedi cael eu dwyn gan gefnogwyr yr ymgeisydd Ceidwadol. Fel prawf eu bod ill ddau yn derbyn mae amryfusedd oedd yn gyfrifol talodd y ddau ymgeisydd rhyngddynt am bâr o sbectol newydd i faer Aberteifi, i sicrhau ei fod yn gallu gweld lleoliad pob llyfr pôl yn y dyfodol [4].
Marwolaeth
golyguBu farw yng Ngogerddan yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng nghôr Eglwys Llanbadarn Fawr.[5]
Dolen allanol
golyguLlun o Pryse Pryse yng nghasgliad LlGC Archifwyd 2021-10-21 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cambrian - 23 Ionawr 1813 Hysbysiadau Teulu[1] adalwyd 17 mai 2015
- ↑ Annals and Antiquities, the Counties and County Families, Wales: Containing a Record, All Ranks, the Gentry with Many Ancient Pedigrees and Memorials, Old and Extinct Families, Cyfrol 1 Thomas Nicholas 1872 Tudalen 208 [2] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ PRYSE, Pryse (1774-1849), of Gogerddan, Card. and Buscot Park, Berks. History of Parliament online [3] adalwyd 17 Mai 2015
- ↑ Cambrian 6 Tachwedd 1841 [4] adalwyd Ion 7 2014
- ↑ Funeral of the late Pryse Pryse, Gogerddan Welshman - 12 Ionawr 1849 [5] adalwyd 17 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Vaughan |
Aelod Seneddol Aberteifi 1818 – 1849 |
Olynydd: Pryse Loveden |