Edward Roberts (Iorwerth Glan Aled)
Bardd a chyfieithydd o'r 19g oedd Edward Roberts (5 Ionawr 1819 - 18 Chwefror 1867), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Iorwerth Glan Aled neu Glan Aled.[1]
Edward Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Iorwerth Glan Aled, Glan Aled |
Ganwyd | 5 Ionawr 1819 |
Bu farw | 18 Chwefror 1867 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd |
Bywgraffiad
golyguGaned Edward Roberts ym mhentref Llansannan yn yr hen Sir Ddinbych yn 1819. Cafodd yrfa amrywiol. Cafodd ei ordeinio'n weinidog gyda'r Bedyddwyr a gwasanaethodd yn Lerpwl a Rhymni. Bu hefyd yn cadw siop yn Rhuddlan a Dinbych yn ei sir enedigol.[2]
Gwaith llenyddol
golyguUchelgais mawr y bardd oedd llunio arwrgerdd fawr ar thema Feiblaidd a fyddai'n hafal i Goll Baradwys (Paradise Lost) John Milton. Roedd cyfansoddi cerdd o'r fath, er mwyn urddas y Gymraeg, wedi denu bryd sawl bardd Cymraeg ers dyddiau Goronwy Owen. Ond mai cerdd hir Glan Aled, Palestina, yn hirwyntog a heb lawer o awen ac yn ogystal mae'n dioddef dan ddylanwad cystrawennau Saesneg a geiriau a fathwyd gan Goronwy Owen. Gwelir awen y bardd ar ei gorau efallai yn ei gerddi byrion, fel Afon Aled, Llansannan, Cymru ac eraill.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Dyddanion, neu Hanesion Difyrus a Buddiol (1838)
- Y Weithred o Fedyddio, (1849)
- Cerdd Allwyn, er Coffadwriaeth am E. Jones, ‘Ieuan Gwynedd' (1853)
- Palestina (1851)
- Y Llenor Diwylliedig, sef Llawlyfr yr Ysgrifenydd, yr Areithydd, a'r Bardd (1862)
- Mel-Ddyferion Barddonawl (1862)
- Gwaith Barddonol Glan Aled (1890). Cyhoeddwyd ar ôl marwolaeth y bardd gan ei nai Edward Jones.
- Ceir detholiad o gerddi byrion Glan Aled gan Gwenallt (Llyfrau Deunaw, 1955)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ROBERTS, EDWARD ('Iorwerth Glan Aled'; 1819 - 1867), bardd a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-07-23.
- ↑ 2.0 2.1 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922), t.53.