Eglwys Ein Morwyn o'r Saith Gofid, Dolgellau

eglwys yn Nolgellau, Gwynedd

52°44′30″N 3°53′05″W / 52.7416°N 3.8846°W / 52.7416; -3.8846

Eglwys ein Morwyn Saith Gofid
Our Lady of Sorrows Church
Tu allan
LleoliadDolgellau, Gwynedd
GwladCymru
CristnogaethEglwys Gatholig Rufeinig
GwefanWrexhamDiocese.org.uk
Hanes
SefydlyddY Tad Francis Scalpell
Cysegrwyd iY Forwyn Fair
Dydd cysegru15 Mai 1967
Pensaerniaeth
StatwsAr agor
Statws gweithredolEglwys Catholig y Plwyf
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II
Dynodiad9 Awst 2007[1]
Pensaer/iMaurice Pritchard
Math o bensaerniaethAdferiad Romanesg
Torri tywarchen1963
CwbwlhawydMedi 1966
Cost ei chodi£68,000
Manylion
Cynulleidfa200
Hyd allanol88 ft (27 m)
Lled allanol33 ft (10 m)
Uchder28 ft (8.5 m)
Administration
DeoniaethDolgellau[2]
EsgobaethDeoniaeth Wrecsam
Rhanbarth eglwysigTalaith Caerdydd

Eglwys Ein Morwyn Saith Gofid (en: Our Lady of the Seven Sorrows) yw enw eglwys Gatholig Rufeinig Dolgellau adeilad Gradd II[3] a adeiladwyd ym 1966. Mae wedi ei lleoli ar Heol Meurig yn agos at ganol y dref; mae'n rhan o Ddeoniaeth Dolgellau ac Esgobaeth Wrecsam o'r enwad.[4]

Gwreiddiau golygu

Sylfaenydd yr eglwys oedd y Tad Francis Scalpell, offeiriad o Falta yn wreiddiol, a ordeiniwyd yn Rhufain ym 1921 a aeth i Lerpwl ym 1926 lle sylfaenodd plwyf St Anthony o Padua ym Mossley Hill. Ym 1938, aeth i Hwlffordd cyn symud i Ddolgellau flwyddyn yn ddiweddarach.[5]

Gan nad oedd addoldy ar gyfer Catholigion cylch Dolgellau, pan symudodd Scalpell i'r dref arferai gynnal yr offeren mewn hen stabl; bu gwirfoddolwyr yn gyfrifol am drwsio'r stabl a'i ehangu trwy ei gysylltu â hen siop pysgod a sglodion; yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu carcharorion rhyfel o'r Eidal yn helpu i wella adnoddau'r addoldy[6].

Sefydliad golygu

Cynyddodd niferoedd poblogaeth Gatholig y cyffiniau yn sylweddol yn ystod y 1950au, a theimlai'r Tad Scalpell bod angen eglwys newydd, mwy o faint yn Nolgellau. Ysgrifennodd dros 25,000 o lythyrau i bobl ledled y byd yn gofyn am roddion ar gyfer eglwys newydd. Yn ôl cofnodion y plwyf o'r 1960au cynnar bu i ddieithryn aros ar ôl wedi'r offeren un Sul gan ofyn i'r Tad Scalpell faint mwy o arian oedd ei angen ar gyfer yr eglwys newydd; wedi clywed y swm dywedodd wrth yr offeiriaid y byddai'n fodlon cyfrannu'r swm oedd ei angen. Deuddydd yn ddiweddarach derbyniodd Scalpell lythyr gan gwmni o gyfreithiwr yn ei hysbysu byddai cymwynaswr yn rhoi'r arian angenrheidiol os oedd y cyfrannwr yn cael aros yn ddienw a bod yr adeilad newydd yn un hardd ac yn weddi i'w amgylchedd mynyddig llwm.

Adeiladu golygu

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1963 gan bara am bedair blynedd. Cyfanswm y gost oedd £68,000. Roedd y pensaer, Maurice Pritchard, a'r cwmni adeiladu, John Evans a'i Feibion, oll o'r ardal leol. Cafodd yr eglwys ei hadeiladu mewn pensaernïaeth o arddull Normanaidd gyda chroes uwchben y brif fynedfa a gynlluniwyd gan Benigno Morlin Visconti Castiglione, cerflunydd o Milan, sydd â gwaith yn cael ei harddangos yn Eglwys Gadeiriol Milan a Basilica San Pedr yn Rhufain.

Cafodd yr eglwys ei hagor ym mis Medi 1966 a chafodd ei chysegru ar 15 Mai 1967 gan Esgob Minerfa yr Hybarch John Edward Petit.

Galeri golygu

Nodyn am yr enw golygu

Does dim enw Cymraeg swyddogol ar yr eglwys. Daw'r enw Saesneg o emyn Ladin o'r 13g sy'n cychwyn efo'r geiriau Stabat mater dolorosa[7] sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel Mae'r fam yn galaru. Dolorosa yw gwreiddyn y gair Cymraeg dolur, gellir cyfieithu dolorosa (a gan hynny'r sorrows Saesneg) i'r Gymraeg fel gofid, dolur, galar, loes neu archoll[8][9].

Cyfeiriadau golygu