Eglwys yr Holl Saint, Deganwy
egwys yn Neganwy, sir Conwy
(Ailgyfeiriad o Eglwys Holl Saint, Deganwy)
Mae Eglwys yr Holl Saint yn eglwys Anglicanaidd yn nhref Deganwy, Conwy, Cymru, ar safle sy'n edrych dros aber Conwy.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Conwy |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 21.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.2941°N 3.82692°W |
Cod OS | SH783790 |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | gŵyl (yr) Hollsaint |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy |
Disgrifiad golygu
Mae'n eglwys Anglicanaidd weithgar ym mywoliaeth Eglwysrhos (neu Lanrhos), deoniaeth Llanrwst, archddiaconiaeth Llanelwy, ac Esgobaeth Llanelwy.[1] Cafodd ei chofrestru gan Cadw fel Adeilad rhestredig Gradd II*.
Adeiladwyd yr eglwys fel eglwys goffa gan yr Arglwyddes Augusta Mostyn i ddyluniad gan John Douglas o Gaer ar safle sy'n edrych dros aber Conwy. Mae ganddi glaeruchdwr, cangell yn uwch na chorff yr eglwys, a thŵr gorllewinol.[2]
Organ golygu
Adeiladwyd yr organ dwy law gan Alex Young a'i Feibion o Fanceinion ym 1899, ac fe'i haddaswyd gan L. Reeves ym 1972.[3]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) "The Rectoral Benefice of Rhos-Cystennin" Archifwyd 2020-11-17 yn y Peiriant Wayback.; Yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 13 Tachwedd 2020
- ↑ Hubbard, Edward (1991), The Work of John Douglas, London: The Victorian Society, pp. 180–81
- ↑ Caernarfonshire, Deganwy, All Saints (N11689), The National Pipe Organ Register, http://www.npor.org.uk/NPORView.html?RI=N11689, adalwyd 20 Tachwedd 2020