Eglwys Llaneirwg
Mae eglwys plwyf Llaneirwg, pentref a fu yn hanesyddol yn rhan o Sir Fynwy ond sydd bellach yn faesdref o Gaerdydd, yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 14g, ond darganfuwyd tystiolaeth o adeilad hŷn, Normanaidd yn ystod gwaith atgyweirio yn oes Fictoria. Mae'n debyg fod yr eglwys honno'n fwy o faint na'r un presennol.[1] Cysegrir yr eglwys i sant Normanaidd o'r enw Mellon, ac yn Saesneg mae ardal Llaneirwg yn dwyn ei enw. Cyn dyfodiad y Normaniaid safai eglwys Geltaidd yn y fangre, wedi'i chysegru i Leurwg, mab Coel Hen.[2]
Math | eglwys blwyf |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llaneirwg, Hen Laneirwg |
Sir | Caerdydd, Hen Laneirwg |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 53 metr |
Cyfesurynnau | 51.5263°N 3.1137°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Mellonius |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Mynwy |
Saif yr eglwys ar ben bryn, ac mae ei thŵr yn weladwy o Fôr Hafren.[3] Mae cynllun yr eglwys yn un anghyffredin; ar y wal dwyreiniol mae dau fwa, y naill yn fwy na'r llall, yn arwain i mewn i'r gangell â'r capel ogleddol. Ceir olion hen groglofft yn croesi'r rhain.[1] Ni saif y tŵr o flaen corff yr eglwys ar yr ochr orllewinol ond ar ei ganol i'r de. Newidiwyd y nenfwd a llawer o'r ffenestri yn y 15g.[4]
Atgyweiriwyd yr eglwys oddeutu 1858 gan y pensaer George Gilbert Scott; ariannwyd y gwaith hyn gan Edward Augustus Freeman, hanesydd a drigodd gerllaw ym mhlasdy Llanrhymni o 1855 tan 1860.[5] Atgyweiriwyd yr eglwys eto ym 1868–9 gan Charles Buckeridge,[6] a'r gangell oddeutu 1875 gan Ewan Christian.[7] Ym 1963 penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I.[4]
Saif Croes Llaneirwg y tu allan i fynwent yr eglwys.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Freeman 1857, t. 267.
- ↑ Neal 2005, t. 3.
- ↑ Neal 2005, t. 54.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Church of St Mellon, Old St Mellons. British Listed Buildings. Adalwyd ar 7 Mehefin 2014.
- ↑ Bielski 1985, t. 12.
- ↑ Newman 1995, t. 567.
- ↑ Bielski 1985, t. 16.
Llyfryddiaeth
golygu- Bielski, Alison (1985). The Story of St. Mellons. Port Talbot: Alun Books.CS1 maint: ref=harv (link)
- Freeman, Edward A. (1857). "Architectural Antiquities in Monmouthshire. No. V: St. Mellon's". Archæologia Cambrensis III: 265–74.
- Neal, Marjorie; et al. (2005). Rumney & St. Mellons: A History of Two Villages.CS1 maint: ref=harv (link)
- Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)