Eglwys Sant Beuno, Llanycil

eglwys Gradd II ger y Bala, Gwynedd

Saif Eglwys Sant Beuno ym mhentref Llanycil, ar lan Llyn Tegid, rhwng y llyn a'r A494; cyfeirnod OS: SH9146934868. Fe'i cofnodir am y tro cyntaf yn 1291.

Ers 2016, fe'i haddaswyd yn amgueddfa ar Mari Jones, ac ni cheir gwasanaethau.

Yn agos at yr eglwys roedd yma unwaith ffynnon o'r un enw: Ffynnon Beuno. Yr ochr arall i'r briffordd mae hen Reithordy. Mae'r eglwys wedi'i chofrestru'n Gradd II a'i chodi o garreg lleol. Yn haenau isaf y waliau gellir gweld brics Rhufeinig a cherrig a gludwyd yma o Gaer Gai, hen gaer Rufeinig a leolir tua milltir i gyfeiriad Llanuwchllyn.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Coflein[dolen marw]; adalwyd 23 Mai 2016