Mari Jones

y ferch a gerddodd o Lanfihangel y Pennant i'r Bala, yn droednoeth

Roedd Mary Jones (16 Rhagfyr 1784 - 28 Rhagfyr 1864) yn ferch i wehydd o Lanfihangel-y-Pennant, yn yr hen Sir Feirionnydd, Gwynedd heddiw. Yn ôl arferiad yr oes, oherwydd mai Saeson oedd yn cofrestru genedigaethau 'Mary' a sgwennwyd ar ei thystysgrif geni, ond 'Mari' fyddai ei henw o ddydd i ddydd.

Mari Jones
Ganwyd16 Rhagfyr 1784 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1864 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Am y bregethwraig, gweler Goleuadau Egryn.

Yn ferch ifanc bymtheg oed, yn 1800, dywedir iddi gerdded yn droednoeth o bwthyn bach y teulu, "Ty'n y Ddôl", Llanfihangel-y-Pennant i Abergynolwyn, drwy'r Brithdir yr holl ffordd i'r Bala er mwyn prynu Beibl gan y Methodist enwog Thomas Charles. Yn ôl traddodiad dyna'r digwyddiad a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804.

Bu farw'n 80 oed a'i chladdu ym Mryn-crug ble ceir cofeb iddi.

Cofadail yn Llanfihangel-y-Pennant

golygu

Ar flaen y gofadail i Mari Jones a godwyd ar safle adfeilion y bwthyn lle trigai yn Llanfihangel-y-Pennant, ger pen gogleddol Pont Ty'n-y-fach, ceir yr arysgrif ddwyieithog hon:

ER CÔF AM MARI JONES

YR HON YN Y FLWYDDYN 1800,
PAN YN 16 OED A GERDDODD O'R

LLE HWN I'R BALA, I YMOFYN BEIBL
GAN Y PARCH. THOMAS CHARLES, B.A.
YR AMGYLCHIAD HWN FU
YN ACHLYSUR SEFYDLIAD Y
GYMDEITHAS FEIBLAIDD
FRUTANAIDD A THRAMOR.


Ar y mur allanol ceir cofeb arall yn nodi 'Tyn y Ddol. Cartref Mari Jones'

 
Cofadail i Mary Jones

Gweler hefyd

golygu

Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl llyfr am ei hanes gan Robert Oliver Rees

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.