Eglwys Sant Cynllo, Llanbister

eglwys yn Llanbister, Powys

Saif Eglwys Sant Cynllo uwch pentref Llanbister, Powys ac mae corff yr eglwys yn perthyn i gychwyn y 14g. Mae ei mynwent yn grwn ac felly'n mynd yn ôl i'r Eglwys Geltaidd, ond ychwanegwyd y tŵr hynod yn y 15g.[1]

Eglwys Sant Cynllo
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanbister Edit this on Wikidata
SirLlanbister Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr298.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3506°N 3.30816°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iCynllo Edit this on Wikidata
Manylion

Adnewyddu golygu

Adnewyddwyd yr eglwys yn 1752, pan adferwyd rhan ucha'r clochdy sgwâr. Yn 1908 gwnaed cryn dipyn o waith gan y pensaeri W. D. Caroe a H. Passmore, pan ailgodwyd rhan o fur deheuol yr eglwys, ychwanegwyd cyntedd a gwnaed bedyddle. Gwnaed y gwaith gan yr adeiladwyr Collins & Godfrey o Tewkesbury.

 
Y tu fewn i'r eglwys yn gynnar yn yr 20g. (Ffotograff gan P. B. Abery yn y Llyfrgell Genedlaethol.)

Cynllo golygu

Prif: Cynllo

Sant Cymreig oedd Cynllo (fl. 5fed ganrif?). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab i Far (neu 'Mor') ap Ceneu ap Coel Godebog (Coel Hen) o'r Hen Ogledd ac felly'n un o'r "Coeling", disgynyddion Coel, fel Llywarch Hen. Ond mae ffynonellau eraill yn ei wneud yn frawd i sant Teilo. Mae'r lleoedd a gysylltir â Chynllo yng Nghymru yn cynnwys Llanbister a dau bentref o'r enw Llangynllo (sef Llangynllo (Powys) a Llangynllo (Ceredigion)). Ym Mhowys hefyd ceir Pistyll Cynllo, ffynnon enwog ym mhlwyf Llanbister. Yn yr Oesoedd Canol, Cynllo oedd nawddsant cantref Maelienydd. Roedd yn nawddsant Rhaeadr Gwy (Cwmwd Deuddwr) yn ogystal, a Llangoedmor yng Ngheredigion hefyd.

Cyfeiriadau golygu