Llangoedmor
Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Ceredigion yw Llangoedmor[1] ( ynganiad ). Saif y pentref 1 filltir i'r dwyrain o dref Aberteifi ar y lôn B4570 ar lan ffrwd fechan sy'n llifo i aber Afon Teifi gerllaw.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,128, 1,136 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,930.48 ha |
Cyfesurynnau | 52.0811°N 4.6326°W |
Cod SYG | W04000381 |
Cod OS | SN175465 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Sant Cynllo yw nawddsant yr eglwys. Atgyweirwyd yr hen eglwys yn sylweddol yn 1860. Er mai pentref bychan yw Llangoedmor heddiw, ar un adeg roedd gan ei chlas awdurdod dros ardal ehangach, yn cynnwys Aberteifi, Mwnt a Llechryd.
Ceir Ffynnon Cynllo yn y plwyf, enwog am iachau'r crudcymalau, yn ogystal â 'Cerwyni Cynllo' ar lan Afon Teifi; ogofâu â'r dŵr yn "berwi" ynddynt. Ceir gwaith amddiffyn o bridd a elwir Cynllo Faes.
Ceir llawer o straeon am fywyd mân-fonheddwyr Cymreig Plas Llangoedmor yn llyfr H. M. Vaughan The South Wales Squires (llyfr a gafodd ddylanwad mawr ar Saunders Lewis).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 15 Hydref 2024
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Ffynhonnellau
golygu- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1953)
Trefi
Aberaeron · Aberteifi · Aberystwyth · Ceinewydd · Llanbedr Pont Steffan · Llandysul · Tregaron
Pentrefi
Aberarth · Aber-banc · Aber-ffrwd · Abermagwr · Abermeurig · Aber-porth · Adpar · Alltyblaca · Betws Bledrws · Betws Ifan · Betws Leucu · Bethania · Beulah · Blaenannerch · Blaenpennal · Blaenplwyf · Blaen-porth · Y Borth · Bow Street · Bronant · Bwlch-llan · Capel Bangor · Capel Cynon · Capel Dewi · Capel Seion · Caerwedros · Castellhywel · Cellan · Cilcennin · Ciliau Aeron · Clarach · Cnwch Coch · Comins Coch · Cribyn · Cross Inn (1) · Cross Inn (2) · Cwm-cou · Cwmystwyth · Cwrtnewydd · Dihewyd · Dôl-y-bont · Eglwys Fach · Felinfach · Y Ferwig · Ffair-rhos · Ffostrasol · Ffos-y-ffin · Ffwrnais · Gartheli · Goginan · Y Gors · Gwbert · Henfynyw · Henllan · Horeb · Llanafan · Llanarth · Llanbadarn Fawr · Llandre · Llandyfrïog · Llanddeiniol · Llanddewi Brefi · Llanfair Clydogau · Llanfarian · Llanfihangel y Creuddyn · Llangeitho · Llangoedmor · Llangrannog · Llangwyryfon · Llangybi · Llangynfelyn · Llangynllo · Llanilar · Llanio · Llan-non · Llanrhystud · Llansantffraid · Llanwenog · Llanwnnen · Llechryd · Lledrod · Llundain-fach · Llwyncelyn · Llwyndafydd · Llwyn-y-groes · Morfa · Mwnt · Nanternis · Penbryn · Penparc · Penrhiw-llan · Penrhyn-coch · Penuwch · Pen-y-garn · Plwmp · Pontarfynach · Ponterwyd · Pontgarreg · Pontrhydfendigaid · Pont-rhyd-y-groes · Pontsiân · Post-mawr · Rhydlewis · Rhydowen · Rhydyfelin · Rhydypennau · Salem · Sarnau · Southgate · Swyddffynnon · Talgarreg · Tal-y-bont · Temple Bar · Trefenter · Trefilan · Tremain · Tre-saith · Tre Taliesin · Troed-yr-aur · Ysbyty Ystwyth · Ystradaeron · Ystrad Meurig · Ystumtuen