Cwmwd yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, yng nghanolbarth Cymru, oedd Cwmwd Deuddwr. Roedd yn gwmwd "annibynnol", heb fod yn rhan o gantref.

Cwmwd Deuddwr
Enghraifft o'r canlynolcwmwd Edit this on Wikidata
RhanbarthRhwng Gwy a Hafren Edit this on Wikidata
Erthygl am y cwmwd ym Maesyfed yw hon. Gweler hefyd Deuddwr (Teyrnas Powys) a Deuddwr (gwahaniaethu).

Gorweddai'r cwmwd yng nghanolbarth Cymru ar y ffin â Phowys (Powys Wenwynwyn) i'r gogledd a Cheredigion i'r gorllewin. Ffiniai ag Arwystli Uwch Coed (Arwystli) ym Mhowys, Gwerthrynion a Buellt i'r dwyrain a'r de yn Rhwng Gwy a Hafren, a Mefenydd a rhan o gwmwd Penardd (Uwch Aeron) yng Ngheredigion.

Roedd yn gwmwd mynyddig gyda bryniau Elenydd yn llenwi llawer o'r tir, yn enwedig yn y gorllewin i gyfeiriad Ceredigion.

Ychydig iawn a wyddys am ei hanes cynnar, cyn cyfnod y Normaniaid. Er i'r cwmwd fwynhau cyfnodau o annibyniaeth daeth yn destun ymgiprys am reolaeth arno rhwng Deheubarth ac arglwyddi Normanaidd y Mers o ddiwedd yr 11g. Rhwng tua 1100 a 1377 roedd teulu'r Mortimeriaid yn ei reoli am gyfnodau sylweddol. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Faesyfed ac wedyn sir Powys.

Gweler hefyd golygu

     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.