Eglwys Sant Saeran
Eglwys hynafol o'r 13g sydd wedi'i dynodi'n Radd I gan Cadw yw Eglwys Sant Saeran, Llanynys, Sir Ddinbych, a arferid ei alw'n Eglwys Llanfawr.[1] Eglwys Sant Saeran yw un o eglwysi mwyaf deniadol a hynafol yr ardal. Saif mewn pentref tawel sy’n cynnwys hen dafarn ac ambell dŷ. Eto i gyd, hon oedd mam-eglwys de Dyffryn Clwyd, un o'r fwyaf yn yr ardal, a bu, ar un adeg, yn gartref i ‘glas’ (sef cymuned grefyddol Gymraeg), a sefydlwyd efallai yn y 6g ac a gysegrwyd i’r esgob-sant Saeran sydd a'i ŵyl ar y 13eg o Ionawr. Ni wyddys llawer amdano bellach ond mae ei enw hefyd i'w gael yn yr enw Ffynnon Sarah (a nodwyd gan Edward Lhwyd fel "Saeran") ym mhentref Derwen.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanynys |
Sir | Llanynys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 41.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.1536°N 3.34254°W |
Cod post | LL16 4PA |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | Saeran |
Manylion | |
Mae tu mewn yr eglwys yn fawr ac mae hyn yn gydnaws â phwysigrwydd yr eglwys ar un adeg, gyda'i chysylltiadau agos ag Esgobion Bangor, a fu’n berchen arni am gyfnod hir. Mae ganddi ddau gorff, fel cynifer o eglwysi Sir Ddinbych, ynghyd â dau do gwych â thrawstiau gordd sy’n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Mae’r colofnau rhychiog o goed rhwng y ddau gorff yn fwy anghyffredin ac yn llawer mwy diweddar, gan eu bod yn dyddio o gyfnod yr adnewyddu ym 1768.
Y porth (13eg ganrif)
golyguY nodwedd hynaf sy’n perthyn i’r eglwys bresennol yw’r porth gorllewinol sy’n dyddio o’r 13g; hyd yn ddiweddar, nid oedd yn cael ei ddefnyddio ac roedd wedi'i orchuddio ag eiddew. Fodd bynnag, yn 2015 gorffennwyd prosiect atgyweirio'r eglwys, a gostiodd £4.5 miliwn. Gwelir y porth wrth fynd i mewn i’r fynwent gyda’i choed yw hynafol. Mae’r porth wedi ei gerfio’n gain ac yn dyddio o gyfnod y Tuduriaid; gwelir y dyddiad 1544 (mewn Lladin) uwchben y porth.[2] Dyddiwyd y drws yn yr ochr gorllewinol i 1220.
Mae'r drws derw yntau'n hynafol, gyda'r dyddiadau 17 Mawrth 1598 ac Ebrill 1602 wedi'u cerfio ynddo. Ceir dau fath o garreg yma: un lleol, lwyd o'r afon a charreg goch (tywodfaen) o chwarel yn Hirwaen.
Y llun o Sant Cristoffer
golyguYn union gyferbyn â’r drws y mae prif ogoniant Eglwys Sant Saeran, sef murlun anferthol o’r 15g o Sant Cristoffer. Mae'n mesur 12 troedfedd (3.7m) o hyd a 9 troedfedd (2.8m) o lled.[3] Ail-ddarganfuwyd y murlun canoloesol hwn o dan y plastr ar 22 Mawrth 1967 gan y Parch L. Parry Jones – dyma'r un gorau o ddigon yng Ngogledd Cymru. Yn ôl y chwedl, yr oedd y sant yn gryf iawn a gweithiai yn cario pobl dros afon llydan; yn y llun, fe’i dangosir yn cario’r baban Iesu ar draws afon, gyda gwialen flodeuog yn ei law a haig o bysgod o gwmpas ei draed. Sant Cristoffer (sef ‘cariwr Crist’) yw nawddsant teithwyr a châi ei beintio’n aml gyferbyn â drysau eglwysi, lle y gallai teithwyr ei weld a thrwy hynny credid na fyddent yn ‘perlewygu nac yn syrthio’ yn ystod y diwrnod hwnnw. Mae’r gred yn parhau ar ffurf modrwyau allweddi a 'thrysorau San Christopher eraill mewn ceir heddiw. Credir fod y llun yn dyddio i oes Owain Glyn Dŵr (1400-1430). Mae'n bosib mai'r un arlunydd a wnaeth y murlun o Ddydd y Farn ar fwa cangell Eglwys San Silyn, am fod y ddau lun yn debyg o ran arddull.[3] Adferwyd y llun gan Eve Baker, Llundain ac eraill.
Arferai fod uwch ben y llun destun Cymraeg; ond fe'i diogelwyd drwy eu trosglwyddo i fan saffach yn yr eglwys. Dyma'r ysgrifen a ddaw o lyfr Haggai: 'Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tý hwn yn anghyfannedd? Esgynwch i'r mynydd a dygwch goed ac adiladwch y tý; mi a fyddaf fodlon ynddo ac y'm gogoneddir medd yr Arglwydd.' Sgwennwyd y geiriau hyn gryn dipyn ar ôl paentio'r llun - tua'r 17g.
Cerrig coffa
golyguGerllaw’r peintiad y mae dau drysor canoloesol a phwysig arall: beddrod-ddelw tolciog o offeriad sef, o bosibl, yr Esgob ap Richard o Fangor (a fu farw yma ym 1267) a gallai’r ffigwr o esgob meitrog ar y garreg chweochrog gynrychioli Sant Saeran ei hun. Ymddengys fod y ffigwr bychan, gyda’i ffon fugail yn ei law, yn sefyll ar ben arth ac ar ochr arall y garreg y mae llun o’r croeshoeliad. Hyd yn ddiweddar, safai yn y fynwent, o bosib yn dynodi bedd y sant neu gysegrfan: dywedir fod y garreg hon yn dyddio o’r 14g, ond gallai fod yn llawer hŷn na hyn.
Lluniau
golygu-
Yr olygfa ym mhrif gorff yr eglwys i gyfeiriad yr allor.
-
Y pulpud a chefn yr eglwys
-
Y capel, sydd oddi fewn i'r brif eglwys, ac a ddefnyddir o ddydd i ddydd i gynnal gwasanaethau
-
Yr organ
-
Yr olygfa tuag at y drws a'r porth
-
Cofnod o'r arian a danysgrifiwyd i dlodion y plwyf yn 1787, yn Gymraeg
Gweler hefyd
golygu- Cyndeyrn
- Eglwys Llangar: ceir llun lliw, wedi'i leoli gyferbyn a'r drws yma hefyd.
- Eglwys Llanilltud Fawr, lle ceir murlun arall o Sant Cristoffer, tebyg i'r un yn Llanynys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 19 Gorffennaf 2015
- ↑ Dinbych Canoloesol; Archifwyd 2015-07-27 yn y Peiriant Wayback Cyngor Sir Ddinbych; rhoddwyd yr hawl i ddefnyddio testun y wefan hon, dan drwydded CCBYSA.
- ↑ 3.0 3.1 Coldstream, Nicola (2008). Builders & Decorators: Medieval Craftsmen in Wales. Caerdydd: Cadw. t. 55.
Llyfryddiaeth
golygu- Llanynys Church, Past and Present gan y Parch L. Parry Jones; 1988.