Saeran
Sant ac esgob Cymreig cynnar oedd Saeran, sy'n gysylltiedig gydag un eglwys yn unig: Eglwys Sant Saeran ym mhentref Llanynys, tua cilometr o bentref Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, ger Rhuthun. mae ei ŵyl ar y 13eg o Ionawr. Ni wyddys llawer amdano bellach ond mae ei enw hefyd i'w gael yn yr enw 'Ffynnon Sarah' (a nodwyd gan Edward Lhwyd fel "Saeran") ym mhentref Derwen.
Saeran | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 13 Ionawr |
Mae'n bosibl mai Geraint Saer o Iwerddon oedd ei dad. Ceir cyfeiriad ato yn y 'Martyrologies of Tallaght & Donegal', a dyna ni. Ni cheir fawr mwy amdano, mae'n bosib gan mai enw Brythoneg sydd ganddo, ac mai yng Nghymru felly y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd.
Yn yr eglwys ceir carreg chwech-ochrog, ac arni ffigwr o esgob meitrog sydd, fwy na thebyg, yn cynrychioli Sant Saeran ei hun. Ymddengys fod y ffigwr bychan, gyda’i ffon fugail yn ei law, yn sefyll ar ben arth ac ar ochr arall y garreg y mae llun o’r croeshoeliad. Hyd yn ddiweddar, safai yn y fynwent, o bosib yn dynodi bedd y sant neu gysegrfan: dywedir fod y garreg hon yn dyddio o’r 14g, ond gallai fod yn llawer hŷn na hyn.[1]
-
Sant Saeren, Llanynys
-
Y garreg, gyda llun o Saeren arni
-
Y garreg, o fewn yr eglwys
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Dinbych Canoloesol; Archifwyd 2015-07-27 yn y Peiriant Wayback. Cyngor Sir Ddinbych; adalwyd 19 Gorffennaf 2015.
Llyfryddiaeth golygu
- Llanynys Church, Past and Present gan y Parch L. Parry Jones; 1988.