Eglwys Sant Tudwal, Abermaw

eglwys yn Abermaw, Gwynedd

Eglwys blwyf Gatholig Rufeinig yn Abermaw, Gwynedd yw Eglwys Sant Tudwal. Fe'i lleolir ar Ffordd y Brenin Edward sy'n arwain o'r Bermo i Lanaber. Fe'i hadeiladwyd ym 1905 ac mae yn neoniaeth Dolgellau ac Esgobaeth Wrecsam.[1]

Eglwys Sant Tudwal
Gorllewin yr eglwys
LleoliadAbermaw, Gwynedd
GwladCymru
CristnogaethCatholig Rhufeinig
GwefanWrexhamDiocese.org.uk
Hanes
SefydlyddTad C. B. Wilcock
Cysegrwyd iTudwal
Dydd cysegruAwst 1905
Pensaerniaeth
StatwsGweithgar
Statws gweithredolEglwys Blwyf
Torri tywarchen15 Awst 1904
Cwbwlhawyd1905
Administration
DeoniaethDolgellau
EsgobaethWrecsam
Rhanbarth eglwysigCaerdydd

Hanes golygu

Cychwynnwyd yr achos Catholig Rhufeinig yn Abermaw yn niwedd y 1880au pan ddaeth offeiriad o'r enw Y Tad Donovan i fyw i'r dref er mwyn gwasanaethu tua hanner dwsin o Gatholigion oedd yn byw yn y dref yn barhaol a'r niferoedd mawr oedd yn ymweld yn yr haf. Cynhaliwyd gwasanaethau mewn ystafelloedd tai lleol i gychwyn. Roedd y trefniant yn ddigonol i'r Catholigion lleol ond nid ar gyfer yr ymwelwyr.[2] Penderfynwyd agor capel bach ar Park Road. Agorwyd hwn ar 11 Medi 1891 ac fe'i cysegrwyd i Sant Tudwal. Gan fod cyn lleied o eglwysi Catholig yng ngogledd Cymru ar y pryd bu'r capel newydd o dan weinyddiaeth Esgobaeth Amwythig. Ym 1895, daeth eglwysi'r gogledd o dan reolaeth Ficeriaeth Apostolaidd Cymru, a daeth yn Esgobaeth Menevia ym 1898.[3]

Erbyn troad y ganrif roedd yr Eglwys yn Park Road yn rhy fychan a phenderfynwyd codi arian ar gyfer eglwys newydd. Bu'r ymgyrch codi arian yn cael ei arwain gan offeiriad newydd y dref y Tad C. B. Wilcock a symudodd i'r Bermo o St Helens, Glannau Merswy. Gosodwyd y garreg sylfaen ar 14 Awst 1904 gan Francis Mostyn, Esgob Menevia. Mae'r ysgythriad ar y garreg sylfaen yn ddweud (yn Lladin):

Ym mlwyddyn ein Harglwydd Ymgnawdoledig, y pymthegfed o Awst 1904. Ar Ŵyl Dyrchafiad Mam Sanctaidd Duw, y Forwyn Fair, bu i'n Harglwydd Francis, trwy ras Duw a'r Esgobaeth Apostolaidd, Esgob Menevia, gosod y garreg gyntaf hon mewn anrhydedd i'r un gogoneddus Morwyn Fair a Sant Tudwal.[4]

Costiodd £5000 i adeiladu'r eglwys ac fe'i hagorwyd gan yr Esgob Francis bron i flwyddyn i'r diwrnod o osod y garreg sylfaen ar 14 Awst 1905 gyda myfyrwyr Jeswit Coleg Beuno Sant, Tremeirchion yn darparu côr.[5]

Gwasanaethau golygu

Mae plwyf Abermaw hefyd yn cynnwys Eglwys Dewi Sant yn Seion, Harlech. Adeiladwyd Capel Seion fel Capel Methodistaidd Wesleaidd ym 1814. Wedi i'r capel cau fe'i trosglwyddwyd i'r Eglwys Gatholig erbyn 1998.

Mae Eglwys Dewi Sant yn Seion yn cynnal offeren pob Dydd Sul am 9:00 y bore. Mae Eglwys Sant Tudwal yn cynnal offeren am 11:00 pob bore Sul gydag offerennau Llun i Wener am 10:00 y bore ac offeren Dydd Sadwrn am 9:00 y bore.

Galeri golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Deaneries Archifwyd 2 April 2015 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Tachwedd 2018
  2. "BARMOUTH - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1891-05-08. Cyrchwyd 2018-11-13.
  3. Donald Atwater, The Catholic Church in modern Wales: a record of the past century (London: Burns, Oates and Washbourne Ltd, 1935), tud. 76–138.
  4. Jones, E. Rosalie A History of Barmouth and its Vicinity (Barmouth, 1905) pp. 122–123
  5. "NEW ROMAN CATHOLIC CHURCH AT BARMOUTH - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1905-08-18. Cyrchwyd 2018-11-13.