Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig, Llanwrin
Eglwys ganoloesol o'r 14eg a'r 15g yw Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig (hefyd: Eglwys Sant Gwrin), a saif i'r gogledd-orllewin o bentref Llanwrin, Powys, ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 15g. Saif yng nghymuned Glantwymyn, (Cyfeirnod OS: SH7866003530) tua 3 milltir (5 km) i'r gogledd-ddwyrain o Fachynlleth. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn 2004 (rhif: 83006) fel adeilad Gradd II*. Mae'n nodedig oherwydd ei hoed a chynifer o rannau gwreiddiol ee y to bwaog o dderw, sgrîn y gangell a'i ffenestri lliw hynod.[1] Fe'i hadnewyddwyd yn 1864 gan Benjamin Ferrey.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanwrin |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 25 metr |
Cyfesurynnau | 52.6159°N 3.79366°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Dyfrig, Gwrin |
Manylion | |
Mae yma gawg defodol (piscina) sy'n perthyn i'r 14g. Sonir am yr eglwys am y tro cyntaf yn llyfrau Treth Norwich tn 1254 fel 'Ecclesia de Llanuril' a'r dreth oedd: 13s 4d. Un siambr sydd iddi, gyda chyntedd a phrif ddrws ym mur y de a clochdy yn nhalcen y mur gorllewinol. Mae'r fynwent bron yn gych, gyda wal garreg yn ei chwmpasu, sy'n nodwedd o eglwys llawer cynharach.[2]
Y seintiau cynnar
golyguCredir i Sant Ust a Sant Dyfrig ddod i'r ardal o Lydaw yn 516 OC a chysegrwyd yr eglwys iddyn nhw, cyn ei newid yn ddiweddarach i Sant Gwrin.
-
Mae'r brif fynedfa drwy fuarth tyddyn (ar y dde)
-
Rhesi o feddau yn ffrynt yr eglwys
-
Llethr o wair ynarwain i gefn yr eglwys
-
Talcen a chloch yr eglwys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan 'Gwydr Lliw yng Nghymru'; adalwyd 2015
- ↑ Gwefan CPAT; Archifwyd 2015-09-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
Llyfryddiaeth
golygu- The Buildings of Wales: Powys gan Richard Haslam 1979