Dyfrig
Un o arweinwyr crefyddol Oes y Seintiau oedd Sant Dyfrig (m. tua 512; Lladin Dubricius) a drigodd yn y 6g.[1] Cysylltir ef â de Swydd Henffordd (Erging) ac ysgol Illtud Sant yn Llanilltud Fawr, Morgannwg. Yn ôl traddodiad roedd Dyfrig yn athro i Sant Deiniol, sefydlydd clas Bangor (Eglwys Gadeiriol Bangor) a Sant Teilo, sefydlydd Llandeilo Fawr. Ei ddydd gŵyl yw 14 Tachwedd.
Dyfrig | |
---|---|
Ganwyd | 460s Madley |
Bu farw | 550s Ynys Enlli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 475 |
Dydd gŵyl | 14 Tachwedd |
Mam | Efrddyl o Erging |
Yn y Vita Samsonis, cyfansoddiad o 7g a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig, roedd gryn dipyn yn hŷn na Sant Samson. Yma hefyd y cyslltir Dyfrig gydag Ynys Bŷr ond ni chredir fod cysylltiad rhyngddo â'r arysgrif ar garreg Ogham a geir ar yr ynys. Mewn capel heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen Ogam ac ysgrifen Ladin arni. Mae'r ogam yn darllen – "Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab ...", a'r Lladin: "Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan".
Ceir tair buchedd, gan gynnwys gwaith Sieffre o Fynwy a Benedict o Gaerloyw, ond y bwysicaf ohonynt yw'r gynharaf, sef Llyfr Llandaf. Mae'r ddogfen yn nodi rhestr o diroedd a oedd i'w trosglwyddo o Esgobaeth Llandaf. Yma hefyd, dywedir fod Dyfrig yn fab i Ebrdil merch Pebiau brenin Ercych a bod elfennau gwyrthiol i'w enedigaeth ym Matle, 5 milltir a hanner i'r gorllewin o Henffordd pan iachaodd ei daid. Dywedir iddo sefydlu mynachlog "Henlann" (sef Hentland-on-Wye) ac iddo breswylio yno am rai blynyddoedd.
Wedi dioddef afiechyd a henaint, aeth i Ynys Enlli i fyw fel meudwy ac yno y bu farw ac y claddwyd ef. Ond canrifoedd wedi hynny, ym Mai 1120, cludwyd ei gorff i Landaf. Credir, bellach, mai propaganda yw'r datganiad canoloesol iddo fod yn esgob Llandaf ac yn Archesgob De Prydain.
Mae'r "Fuchedd" â'r "Annales Cambriae" ill dau'n cofnodi dyddiad ei farw: 612, ond bellach credir iddo farw o leiaf canrif cyn hynny.
Llefydd a alwyd ar ôl Dyfrig
golyguRhestr Wicidata:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffidur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell genedlaethol Cymru.