Eid ul-Fitr
Eid ul-Fitr (Arabeg: عيد الفطر), neu Aïd el-Fitr (yng Ngogledd Affrica), yw'r ŵyl Islamaidd a ddethlir gan Fwslemiaid ar ddiwedd mis sanctaidd Ramadan.
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl grefyddol, gwyl genedlaethol, Islamic term, Islamic holidays |
---|---|
Math | Eid |
Crefydd | Islam |
Rhan o | Islamic holidays |
Rhagflaenwyd gan | Ramadan, Zakat al-Fitr |
Olynwyd gan | Fasting six days of Shawwal month |
Enw brodorol | عيد الفطر |
Gwladwriaeth | ledled y byd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arwyddocâd Eid
golyguDethlir Eid ar ddyfodiad y lleuad newydd ar ddiwedd Ramadan, sef diwrnod cyntaf mis Shawaal, degfed fis y calendr Islamaidd, sy'n dilyn y lleuad. Mae'n dynodi diwedd y mis sanctaidd hwnnw - pan ymprydia Mwslemiaid yn ystod y dydd gan fwyta gyda'r nos yn unig - ac fe'i dethlir gyda gweddïau arbennig, gwleddoedd teuluol a chyfnewid anrhegion a bendithion.
Ystyr Eid ul-Fitr yn llythrennol yw "Diwedd yr Ympryd" (eid "diwedd", ul- "yr", fitr "ympryd"). Mae pobl yn gwisgo dillad newydd, yn ymweld â'r teulu a ffrindiau, ac yn mynd i'r Mosg yn y bore i gymryd rhan yn Salat ul-Eid (gweddïau Eid) a gwrando pregethau. Mae pawb yn dymuno Eid Mubarak ("bendith Eid") i'w gilydd.
Agwedd bwysig arall ar Eid yw rhoi elusen (zaqat neu zakat) i bobl mewn angen, gweithred a ystyrir yn un o bum colofn y ffydd Islamaidd (Arkán al-Dín). Yr enw ar elusen Eid yw 'Zaqat ul-Eid.
Dathliadau
golyguMae Eid ul-Fitr yn amser i ddathlu bywyd ac i ddiolch am fendithion Duw. Mewn cyferbyniaeth lwyr â gweddill Ramadan mae ymprydio ar Eid ul-Fatr yn cael ei ystyried yn weithred aflan. Dyma'r amser i fod yn llaw-agored wrth bawb, i anghofio hen gwerylau a drwgdeimladau ac i droi tudalen newydd gan fod pechodau'r hen flwyddyn yn cael eu golchi i ffwrdd trwy gadw Ramadan.
Uchafbwynt Eid yw'r gwledda mawr sy'n parhau trwy'r nos. Mae teuluoedd ar wasgar yn ymgynnull ac mae pobl yn mynd o dŷ i dŷ i gymryd rhan mewn gwleddoedd traddodiadol gyda phrydau arbennig a digonedd o ddiodydd, cacennau, pwdinau a melysion. Mae pawb yn rhoi anrhegion bach a melysion i blant, yn y cartref ac yn y stryd. Mae teuluoedd sydd â diogon o bres yn lladd dafad neu fuwch ar gyfer yr ŵyl, mewn coffadwriaeth o aberth Ibrahim (Abraham); rhoddir y cig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i'r tlawd a'r anghenus.
Mae goleuni'n bwysig hefyd. Rhoddir goleuadau lliwgar ar y mosgiau ac yn y strydoedd ac mae pawb yn ymdrechu i wisgo'n ddeniadol. Clywir cerddoriaeth seciwlar a chrefyddol ymhobman, o uchelseinyddion ar y strydoedd, yn y caffis a'r bwytai ac yn y gwleddoedd teuluol.
Enwau eraill am Eid
golyguYm Moroco mae Aïd el-Fitr yn cael ei galw 'n Aïd es-Seghir, mewn cyferbyniaeth ag Eid ul-Kabir (neu Aïd el-Kebir), Gŵyl yr Aberth; y ddwy ŵyl hyn yw'r dyddiau gŵyl pwysicaf gan y Mwslemiaid.
Yn Nhwrci, mae'r ŵyl yn cael ei galw'n şeker bayramı, sef Gŵyl y Siwgr, oherwydd bod cymaint o ddanteithion melys yn cael eu bwyta gyda'r nos.
Yng Ngorllewin Affrica, mewn gwledydd fel Mali, Senegal a Niger, enwir yr ŵyl Korité.
Dyddiadau nesaf Eid ul-Fitr
golyguGan fod union ddyddiad Eid yn amrywio rhywfaint o wlad i wlad a bod y calendr Islamaidd yn dilyn y lleuad, amcangyfrif yw'r dyddiadau isod.
- (1442 - Calendr Islamaidd) 13 Mai 2021
- 2 Mai 2022
- 21 Ebrill 2023
- 10 Ebrill 2024
- 30 Mawrth 2025
- 20 Mawrth 2026
- 9 Mawrth 2027
- 26 Chwefror 2028
- 14 Chwefror 2029
Dyddiadau'r gorffennol
golygu- 2008: 30 Medi
- 2009: 20 Medi
- 2010: 10 Medi
- 2011: 30 Awst
- 2012: 19 Awst
- 2013: 8 Awst
- 2014: dydd Llun 28 Gorffennaf
- 2015: dydd Gwener 17 Gorffennaf
- 2016: dydd Mercher 6 Gorffennaf
- 2017: dydd Sul 25 Mehefin
- 2018: dydd Gwener 15 Mehefin
- 2019: 4 Mehefin / 5 Mehefin
- 2020: dydd Sul 24 Mai