Heini Gruffudd

Awdur, athro ac ymgyrchydd o Gymro

Awdur, athro ac ymgyrchydd iaith yw Heini Gruffudd (ganwyd Mawrth 1946).

Heini Gruffudd
GanwydGwilym Heinin Griffiths Edit this on Wikidata
Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethacademydd, ysgrifennwr, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
TadJohn Gwyn Griffiths Edit this on Wikidata
MamKate Bosse-Griffiths Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Gwilym Heini Griffiths yn Nolgellau yn fab i’r llenorion a’r Eifftolegyddion Kate Bosse-Griffiths a John Gwyn Griffiths. Symudodd y teulu yn fuan wedyn i Abertawe, wedi i'w dad gael ei benodi'n ddarlithydd cynorthwyol yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Mae ganddo frawd hŷn Robat Gruffudd.

Bu'n athro yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe. Yn 1979 dyfeisiodd y gêm fwrdd 'Gêm y Steddfod' a ddarluniwyd gan Elwyn Ioan.[1] Rhwng 1990 a 2003 roedd yn ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe.

Mae wedi llunio nifer o gyrsiau ar gyfer dysgu Cymraeg ac mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Welsh is Fun!, the Welsh Learner’s Dictionary a Street Welsh. Mae'n awdur y llyfr poblogaidd Enwau Cymraeg i Blant. Seiliwyd ei waith ar ymchwil academiadd cadarn a daeth yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes. Cafodd ei wahodd i arwain gweithdai ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.

Mae hefyd wedi bod yn ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yn enwedig yn ardal Abertawe. Bu'n gadeirydd cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG). Roedd yn un o sefydlwyr Tŷ Tawe, Canolfan Gymraeg Abertawe, yn 1987. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr a Chadeirydd y mudiad Dyfodol i'r Iaith.

Mae wedi cyhoeddi cyfrol Yr Erlid sy'n adrodd hanes teulu ei fam yng nghyfnod erlid y Natsïaid. Enillodd y llyfr wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013. Adroddwyd yr hanes mewn rhaglen ddogfen Y Trên i Ravensbruck a enillodd ddwy wobr BAFTA.

Ar ôl ymddeol yn gynnar o'r brifysgol, mae’n parhau i weithio fel cyfieithydd ac ymgynghorydd iaith.[2]

Anrhydeddau golygu

Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003. Yn 2015 fe'i wnaed yn Gymrodyr er anrhydedd gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2017.[3]

Bywyd personol golygu

Mae ganddo bedwar o blant - Efa, Nona, Anna a Gwydion.

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Lle oeddwn i: Gêm y Steddfod. BBC Cymru Fyw (3 Awst 2017).
  2.  Prifysgol Abertawe - Heini Gruffudd. Adalwyd ar 16 Awst 2018.
  3.  Yr ymgyrchydd iaith Heini Gruffudd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth (18 Gorffennaf 2017). Adalwyd ar 16 Awst 2018.