Eirwen Gwynn

gwyddonydd, addysgwr ac awdur

Awdures, cenedlaetholwraig a gwyddonydd o Gymru oedd Dr Eirwen Gwynn (1 Rhagfyr 191626 Ionawr 2007).[1]

Eirwen Gwynn
Ganwyd1 Rhagfyr 1916 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd, llenor, athro Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Eirwen Meiriona St John Williams i rieni Cymreig yn ardal Newsham Park, Lerpwl lle'r oedd nifer o Gymry alltud y ddinas yn byw. Cymraeg oedd iaith y cartref a dysgodd yn ifanc i fod yn falch o'i hunaniaeth Gymreig yn sgîl bwlio gan gyd-ddisgyblion ac athrawon.

Roedd ei thad yn ddeintydd ac yn 1928 symudodd y teulu i Langefni lle'r oedd ei thad wedi agor deintyddfa. Fe dynnodd yn groes i'r addysg Seisnig a ddysgwyd yn Ysgol y Sir ond roedd yn ddisgybl disglair. Gwrthododd le ym Mhrifysgol Caergrawnt ac aeth i astudio ffiseg ym Mhrifysgol Bangor yn 1934. Yno cyfarfu ei darpar ŵr, Harri Gwynn a daeth yn weithgar mewn gwleidyddiaeth gyda Phlaid Cymru. Roedd hi a Harri ymysg y rhai a ffurfiodd grŵp newydd o'r enw 'Gwerin' o fewn Plaid Cymru, oedd yn ceisio cymodi egwyddorion sosialaeth a chenedlaetholdeb Cymreig.

Graddiodd ym maes Crisialeg Pelydrau-X yn 1940.[2] Wedi cwblhau eu doethuriaeth ym Mangor, cymerodd swydd fel Pennaeth Adran Ffiseg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ond gadawodd ar ôl blwyddyn. Yn ôl llith goffa Meic Stephens yn The Independent ni chafodd lwyddiant gyda swyddi eraill, unwaith am swydd athrawes yn Lloegr oherwydd am fod y panel cyfweld ddim yn sylweddoli fod Eirwen yn enw benywaidd a felly'n disgwyl gweld dyn - ac nad oeddent yn fodlon derbyn fod gan ddynes PhD mewn Ffiseg.

Priododd Harri Gwynn yn 1942 ac ymunodd a'i gŵr oedd yn gweithio i'r 'Ministry of Supply' yn Warwick, gan ddod o hyd i waith fel cynorthwyydd i gyfrifydd gydag Adran y Trysorlys ac Archwilio. Symudodd yr adrannau hyn o'r llywodraeth nôl i Lundain y flwyddyn ganlynol pan roedd y gwaetha o'r bomio i ben. Bu'r ddau yn byw yn Llundain adeg y Blitz lle ganwyd ei unig fab, Iolo.

Symudodd y teulu nôl i Gymru yn 1950 er mwyn rhoi addysg Gymraeg i'w mab gan fyw mewn tyddyn ger Rhoslan ar Benrhyn Llyn. Roedd ei gŵr yn gweithio fel darlithydd a newyddiadurwr a daeth yn ddarlledwr newyddion yn ddiweddarach ar raglen Heddiw ar BBC Cymru. Bu Eirwen hefyd yn darlithio i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a daeth yn gyfrannwr cyson ar amryw o bynciau ar radio a theledu.

Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar bynciau lled-wyddonol ynghyd ac amryw o storïau a nofelau. Cyhoeddodd dros 1,500 o erthyglau mewn cyfnodolion Y Gwyddonydd a The Listener, papurau newydd The Observer, The Sunday Times, New Internationalist a chylchgronau gwyddonol fel New Scientist a Scientific American. Cyhoeddwyd ei hunangofiant ffraeth Ni'n Dau - Hanes Dau Gariad yn 1999.

Anrhydeddau

golygu

Enillodd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 ac roedd yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd. Roedd yn gyn-lywydd y Gymdeithas Wyddonol Brydeinig ac yn gyn-aelod Llys y Llyfrgell Genedlaethol, Cyngor Ymgynghorol dros Addysg, Llys y Brifysgol ac o Bwyllgor Sefydlog Urdd y Graddedigion. Roedd yn Gymrodor o Brifysgol Bangor.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Meic Stephens (30 Ionawr 2007). Eirwen Gwynn - Welsh nationalist and writer. The Independent.
  2. 2.0 2.1 Gwyddonydd yn marw , BBC Cymru, 26 Ionawr 2007. Cyrchwyd ar 3 Mai 2016.