Eisteddfod Fawr Llangollen
eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ym 1858
Cynhaliwyd Eisteddfod Fawr Llangollen yn mis Medi 1858 yn Llangollen, Sir Ddinbych.
Enghraifft o: | eisteddfod ![]() |
---|---|
Dyddiad | Medi 1858 ![]() |
Lleoliad | Llangollen ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Bu cryn dipyn o ddadlau ynglŷn a'r eisteddfod hon. John Williams (Ab Ithel) oedd un o'r prif drefnwyr, ac enillodd ef a'i deulu nifer o wobrau. Ni thalwyd y wobr i Thomas Stephens am draethawd ar stori Madog, am nad oedd Stephens yn derbyn gwirionedd y chwedl.
Enillodd Ceiriog y gystadleuaeth rieingerdd, gyda Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân, cerdd a ddaeth yn boblogaidd iawn ar unwaith.