Rowland Williams (Hwfa Môn)
Bardd oedd Rowland Williams (Hwfa Môn) (Mawrth 1823 – 10 Tachwedd 1905) ac un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf adnabyddus ei ddydd. Bu'n Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1895 hyd ei farw.
Rowland Williams | |
---|---|
Ffugenw | Hwfa Môn |
Ganwyd | Mawrth 1823 Trefdraeth |
Bu farw | 10 Tachwedd 1905 Y Rhyl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGaned Hwfa Môn yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, ond cafodd ei fagu yn Rhostrehwfa ar yr ynys ; cymerodd ei enw barddol o enw'r pentref bychan hwnnw. Gweithiodd am gyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynwyr mewn rhannau eraill o ogledd Cymru a hefyd yn Llundain. Yn 1881 dychwelodd i Fôn i fod yn weinidog yn Llannerch-y-medd.
Yn 1862 enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 1867 enillodd y Goron (dyma flwyddyn gyntaf cystadleuaeth y Goron).
Yn 1905 cafodd ei bortreadu yn ei wisg Orseddol gan yr arlunydd Christopher Williams.
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth,
- Gwaith Barddonol Hwfa Môn; Argraffwyd gan Jane ac E Jones, Llanerchymedd (1883, 1903)
Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1907
- Cofiant Hwfa Môn gan William John Parry, Gwasg Griffiths & Co. Manceinion
Oriel
golygu-
Hwfa Môn yn ei wisg archdderwydd, gan Christopher Williams
-
Hwfa Môn ar adeg cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1890
-
Hwfa Môn yn wisg yr Archdderwydd
-
Hwfa Môn yn 28 oed
-
Hwfa Môn yn 1900
-
yn 1900 eto
-
Pen y Graig Trefdraeth, lle geni Hwfa Môn
-
Canol Rhos Trehwfa, lle magwyd Hwfa Môn