Tomi Evans

prifardd a enillodd gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bu i Tomi Evans ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970 am ei gerdd ar y thema, Y Twrch Trwyth.[1]

Tomi Evans
GanwydSir Benfro, Tegryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadair yr Eisteddfod Genedlaethol Edit this on Wikidata

Ganed ef yn ffarm 'Blaenffynnon', ym mhentref Tegryn yn Sir Benfro.[2] Dadorchuddwyd llechen er cof amdanno ar 21 Mai 2011 gan yr Archdderwydd ar y pryd, T. James Jones, Jim Parc Nest.[3]

Eisteddfodau golygu

Roedd Tomi Evans yn gystadleuwr ac enillydd amryw o eisteddfodau lleol ac enillodd y Goron ar ei gynnig gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman 1970 ac yntau'n 65 oed.[3] Testun yr awdl oedd y 'Twrch Trwyth'. Gyrrwyd ef i'r Eisteddfod Genedlaethol gan ei nith.

Ceir dyluniad trawiadol i'r Gadair - gan ddefnyddio dyluniad o gadair Oesoedd Canol ond gyda deunydd cyfoes - o ddyluniad canoloesol ond wedi ei gwneud o fformeica gwyn a choch gyda brethyn gwyrdd ar y cefn a’r sedd. Gweler llun lliw o'r gadair ar dudalen 11 o'r Feidr, cylchgrawn Capel Mair, Aberteifi.[2] Symudwyd y Gadair i dŷ nith i Tomi Evans yn Llanfrothen wedi ei farwolaeth.

Bu Tomi Evans yn cymryd rhan yng nghyfresi Ymryson y Beirdd neu Dalwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-09. Cyrchwyd 2019-09-29.
  2. 2.0 2.1 "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2019-09-29.
  3. 3.0 3.1 http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/289/desc/er-cof-am-y-prifardd-tomi-evans/index.html
  4. http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/straeon/010927gwyrsirbenfro.shtml