El Niño

(Ailgyfeiriad o El Nino)

Newidiadau sy'n achosi cynhesu yn nyfroedd rhan ddwyreiniol y Cefnfor Tawel o gwmpas glannau gorllewinol De America yw El Niño (Sbaeneg, yn golygu "y bachgen bychan"). Mae'r ffenomenon yn rhan o'r hyn a elwir yn ENSO (El Niño-Southern Oscillation); heblaw El Niño ceir oeri yn y dyfroedd hyn a elwir yn La Niña ("y ferch fechan"). Daw'r enw El Niño o'r bachgen Iesu, gan fod yr effeithiau yn ymddangos o gwmpas y Nadolig fel rheol.

Y patrwm arferol yn y Cefnfor Tawel. Mae'r dŵr yn gynhesach (coch ag oren) yn y gorllewin, tra mae dŵr oer (gwyrdd) ger arfordir De America (ar y dde).
El Niño. Mae'r dŵr cynhesach yn ymestyn at arfordir De America.

Gall El Niño gael effaith sylweddol ar y tywydd ar draws rhannau helaeth o'r byd. Gall achosi newidiadau ym mhatrwm glawogydd, gan achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd a sychder mewn eraill. Gall hefyd gael effaith fawr ar bysgodfeydd a phoblogaeth adar môr o gwmpas arfordir De America. Gwelwyd El Niño ddiwethaf o fis Medi 2006 hyd ddechrau 2007.