Elfael Is Mynydd
un o ddau gwmwd cantref Elfael yn ardal Rhwng Gwy a Hafren
Yn yr Oesoedd Canol, un o ddau gwmwd cantref Elfael yn ardal Rhwng Gwy a Hafren oedd Elfael Is Mynydd. Gyda chwmwd Elfael Uwch Mynydd, ffurfiai cantref Elfael.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Elfael |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Uwch-mynydd, Maesyfed, Swydd Henffordd |
Roedd y cwmwd yn gorwedd yn rhan ddeheuol Elfael. Ffiniai â chwmwd Uwch-mynydd a Maesyfed i'r gogledd, rhannau o Frycheiniog i'r gorllewin a'r de, a rhan o Swydd Henffordd yn Lloegr i'r dwyrain.