Cyngor Celfyddydau Cymru
Corff cyhoeddus sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru yw Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) (Saesneg: The Arts Council of Wales).
Math o gyfrwng | asiantaeth lywodraethol, cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1946 |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gweithwyr | 77, 81, 75, 84, 88 |
Pencadlys | Canolfan Mileniwm Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Caerdydd |
Gwefan | http://www.arts.wales/ |
Hanes
golyguSefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru (Saesneg: Welsh Arts Council) yn 1946 dan Siarter Frenhinol,[1] Yn 1994 unwyd y Cyngor â thair Cymdeithas Celfyddydol Rhanbarthol yng Nghymru a newidiwyd fersiwn Saesneg yr enw i Arts Council of Wales.
Daeth yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Gorffennaf 1999 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb oddi ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i CCC i hyrwyddo'r celfyddydau. Mae CCC hefyd yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol, i hybu y celfyddydau yng Nghymru, a ddosrennir gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan.
Fel elusen gofrestredig mae gan y Cyngor fwrdd ymddiriedolwyr sy'n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Ar wahan i'r cadeirydd mae aelodau'r cyngor yn gwasanaethu yn ddi-dâl, ac fe'i penodir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae gan CCC swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a dinas Caerdydd.
Prif Weithredwyr
golygu- Peter Tyndall: 2003 - 2008
- Nick Capaldi: 2008 - Awst 2021
- Sian Tomos: Medi 2021 -[2]
Mae'r Cyngor yn un o aelodau corfforaethol y Sefydliad Materion Cymreig.
Beirniadaeth
golyguAr sawl achlysur mae rhai pobl wedi beirniadu CCC, sy'n un o'r "cwangos" gwreiddiol, am fod yn elitaidd - e.e. gwario miliwnau ar opera - ac am fod yn rhy ddosbarth canol, sefydliadol, a Seisnigaidd.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru > Welsh Arts Council Archives. Adalwyd ar 15 Mehefin 2011.
- ↑ Cyngor Celfyddydau Cymru’n penodi prif weithredwr newydd , Golwg360, 10 Mehefin 2021.
- ↑ Gwefan y BBC Ionawr 2006; "Mae aelod o'r cynulliad wedi cyhuddo Cyngor Celfyddydau Cymru o roi ffafriaeth i'r dosbarth canol ar draul cymoedd y de."; adalwyd 31 Ionawr 2013
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2019-03-06 yn y Peiriant Wayback