Elias Owen
Clerigwr, hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin o Gymru oedd Elias Owen (2 Rhagfyr 1833 – 19 Mai 1899). Roedd yn frodor o blwyf Llandysilio ym Maldwyn, Powys.
Elias Owen | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1833 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 19 Mai 1899 Llanyblodwel |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, hynafiaethydd |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Bywgraffiad
golyguGaned Elias Owen yn 1833. Dechreuodd ei yrfa fel prifathro ysgol genedlaethol Llanllechid, Arfon, ar ôl graddio o Coleg y Drindod, Dulyn. Fe'i ordeinwyd yn 1872 a threuliodd gyfnod yn Llanwnnog ac wedyn Croesoswallt cyn symud i Efenechtyd yn Sir Ddinbych lle treuliodd weddill ei oes.
Ysgolheictod
golyguCyhoeddodd ddwy gyfrol ar hynafiaethau yr hen Sir Gaernarfon (Arvona Antiqua) a Dyffryn Clwyd (The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd), ond fe'i cofir heddiw yn bennaf fel awdur y casgliad o chwedlau gwerin a thraddodiadau Cymreig a gyhoeddodd yn 1896, sef Welsh Folklore.
Ysgrifennodd draethawd ar lên gwerin ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1887, lle ceir hanes y Fuwch Frech a chwedlau eraill.
Plant
golyguCafodd 13 o blant, gan gynnwys dau (os nad tri) aelod o Dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru:
- William Pierce Owen (1860–1937), a aeth yn gyfreithiwr i Aberystwyth
- Elias Owen (pêl-droediwr) (1863–1888), cyflawnodd hunanladdiad pan oedd yn 25
Llyfryddiaeth
golygu- Arvona Antiqua (1886)
- The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd (1886)
- Welsh Folklore (1896). Clasur sydd wedi cael ei ailargraffu sawl gwaith.